Astudiaethau Americanaidd a Hanes, BA (Anrh)

Gallwch archwilio llenyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth a diwylliant America

students speaking together

Nid yw'n rhy hwyr i ddechrau astudio gyda ni ym mis Medi / Hydref.

Ewch i’n tudalennau Clirio am fwy o wybodaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae astudio Astudiaethau Americanaidd a Hanes yn golygu dysgu am ddiwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y wlad fwyaf dylanwadol yn y byd, ochr yn ochr â llawer o agweddau ar hanes Prydain, Ewrop a'r byd.

Mae ein cwrs gradd BA tair blynedd yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.

Byddwch yn cael cyfle i astudio hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a diwylliant America, o wladychu i arlywyddiaeth Donald Trump, ac amrywiaeth o bynciau ym maes hanes o'r Croesgadau i'r Dadeni, i Ewrop yn yr 20fed ganrif.

Pam Astudiaethau Americanaidd a Hanes yn Abertawe?

Mae pwnc Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr. 

Mae Astudiaethau Americanaidd yn Abertawe:

  • 3ydd yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2025)
  • Y 5 uchaf yn y DU am Ansawdd y Dysgu (Times Good University Guide 2025) 
  • 2il yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)
  • 3ydd yn y DU am Foddhad Myfyrwyr(Complete University Guide 2026)
  • 100% Boddhad cyffredinol myfyrwyr (NSS 2025)*

*Astudiaethau Americanaidd ac Awstralasiaidd, Q28, NSS 2025

Mae Hanes yn Abertawe yn y:

  • 11fed yn y DU am Effaith Ymchwil (REF2021)
  • Ymhlith y 25 safle uchaf yn y DU am Foddhad Myfyrwyr(Complete University Guide 2026)
  • Mae 94% o  raddedigion Hanes yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025).

Eich Profiad Astudiaethau Americanaidd a Hanes

Rydym yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, felly gallwch lywio eich cwrs gradd mewn Astudiaethau Americanaidd a Hanes mewn ffordd sy'n gweddu i'ch diddordebau eich hun.

Ymhlith y pynciau mae ffilmiau Americanaidd; cerddoriaeth boblogaidd; hil; rhywedd a hanes menywod; ymfudo a threfoli; hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a milwrol; hanes rhyfel a gwrthdaro; terfysgaeth; hawliau sifil; hanes cyhoeddus a threftadaeth; hanes cymdeithasol modern Prydain; hanes crefydd, iechyd a meddygaeth; a phrotest wleidyddol.

Caiff yr addysgu ei lywio gan ein hymchwil ryngddisgyblaethol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc, o hawliau sifil, polisi tramor UDA, y Rhyfel Oer i Ryfel Cartref America, ffuglen gyfoes UDA a Dadeni Harlem.

Bydd gennych tiwtor academaidd a all roi unrhyw gymorth bugeiliol neu academaidd sydd ei angen arnoch, ac mae Cymdeithas y Myfyrwyr Astudiaethau Americanaidd a Chymdeithas y Myfyrwyr Hanes yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau Americanaidd a Hanes

Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn meithrin sgiliau llafar ac ysgrifennu rhagorol a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau mewn amrywiaeth o fformatau, ynghyd â sgiliau ymchwilio, dadansoddi a datrys problemau cadarn.

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:

  • Addysg
  • Archifau
  • Treftadaeth ac amgueddfeydd
  • Busnes
  • Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Y gyfraith a gwasanaethau cyhoeddus

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn cyflwyno hanes, gwleidyddiaeth, diwylliant a llenyddiaeth America i chi, yn ogystal ag agweddau amrywiol ar hanes o'r Oesoedd Canol i'r oes fodern.

Wedyn, byddwch yn dewis eich llwybr gyda modiwlau sy'n gweddu i'ch diddordebau, cyn canolbwyntio'n fanwl ar eich dewis brosiect ymchwil er mwyn ysgrifennu eich traethawd hir terfynol.

Astudiaethau Americanaidd a Hanes

Astudiaethau Americanaidd a Hanes gyda Blwyddyn Dramor

Astudiaethau Americanaidd a Hanes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant