Economeg, BSc (Anrh)

Cewch ddealltwriaeth gadarn o egwyddorion a materion cyfoes economeg

myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Gall gradd mewn Economeg arwain at amrywiaeth enfawr o yrfaoedd, o fancio buddsoddi ac ymgynghoriaeth rheoli i wleidyddiaeth a swyddi rheoli mewn sefydliadau byd-eang.

Mae gan y cwrs gradd BSc Economeg ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn am gynhyrchu graddedigion o'r radd flaenaf y mae llawer ohonynt wedi symud ymlaen i weithio gyda'r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y byd, fel Barclays, HSBC a PwC

Caiff damcaniaeth economaidd ei haddysgu i chi, wedi'i chyfuno ag elfennau mathemategol ac ystadegol. Mae hyn yn helpu i ddatblygu'r adnoddau, y wybodaeth a'r technegau dadansoddi sydd eu hangen i ffynnu mewn swydd sy'n llawn boddhad ym maes economeg.

Caiff y cwrs BSc Economeg ei ddiweddaru'n gyson er mwyn parhau i fod yn berthnasol i'r byd modern go iawn, ac mae'r un mor addas i chi os ydych yn ystyried gyrfa fel economegydd, os ydych yn agored i weithio mewn gwahanol feysydd economaidd ac ariannol, neu os ydych yn ystyried llwybr estynedig astudiaethau ôl-raddedig.

Pam Economeg yn Abertawe?

Mae Economeg yn Abertawe yn:

  • 17ydd yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)

Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol. Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd. Amrywiaeth o fyfyrwyr o fwy na 60 o wledydd gwahanol.

Eich Profiad Economeg

Mae'r cwrs Economeg ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall y cyfleoedd hyn ddatblygu eich cymeriad, meithrin eich sgiliau ymhellach ac ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser i chi chwilio am waith.

Mae ein cwrs gradd blaenllaw yn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o egwyddorion economaidd modern a materion cyfoes.

Bydd yr addysgu cynnar yn rhoi sylfaen gynhwysfawr o wybodaeth i chi sy'n cwmpasu micro a macro-economeg, ystadegau, cyllid, cyfrifyddu a methodoleg.

Yn ystod blynyddoedd diweddarach bydd gennych fwy o ddewis o fodiwlau arbenigol mewn meysydd sy'n cwmpasu datblygu economaidd a mathemateg.

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn.

 

Cyfleoedd Cyflogaeth Economeg

Mae graddedigion Economeg o Brifysgol Abertawe yn barod am gyfleoedd cyflogaeth sy'n talu'n dda ac sy'n rhoi her feddyliol iddynt.

P'un ai'r egni a'r pwysau ar lawr masnachu neu'r hygrededd a geir drwy ddod yn awdurdod ar dueddiadau busnes sy'n mynd â'ch bryd, bydd y radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf i unrhyw un sy'n cyflogi graddedigion. Gallwch weithio yn unrhyw rai o'r swyddi canlynol yn y dyfodol:

  • Economegydd
  • Dadansoddwr, Ymchwilydd
  • Ymgynghorydd i'r Llywodraeth
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Masnachwr Deiliadau
  • Dadansoddwr Ariannol
  • Econometrydd

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Economeg

Economeg gyda Blwyddyn Dramor

Economeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant