Economeg a Busnes, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd Economeg a Busnes yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn damcaniaethau economaidd allweddol ac offer dadansoddol meintiol, ynghyd â phortffolio o gyrsiau mewn arfer rheoli modern.  Mae'r rhaglen wedi'i llunio i fyfyrwyr sydd am fynd i'r afael â strategaeth fusnes ac arfer sefydliadol o safbwynt eang, ac sy'n dymuno cymhwyso offer meintiol llym i ddeall eu goblygiadau ar gyfer yr economi, yr amgylchedd a chymdeithas.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio damcaniaeth economaidd graidd ochr yn ochr â dulliau mathemategol ac ystadegol, gan eich helpu chi i ddatblygu set o sgiliau dadansoddol gadarn er mwyn deall sut mae economïau'n gweithio a rôl busnesau ynddynt.    Caiff hyn ei ategu gan ein modiwlau busnes a rheoli, lle byddwch yn meithrin dealltwriaeth ddofn o sut mae sefydliadau'n gweithio, yn cystadlu ac yn addasu mewn byd sy'n newid yn gyflym.

Wedi'i llunio i fodloni disgwyliadau cyflogwyr mewn cyllid, ymgynghori, polisi ac ymchwil, mae'r BSc mewn Economeg a Busnes yn cefnogi ystod eang o uchelgeisiau gyrfa. Efallai eich bod eisiau bod yn entrepreneur neu ddilyn gyrfa mewn ymgynghoriaeth neu'n bwriadu parhau ag astudiaethau ôl-raddedig.  Mae gradd Economeg a Busnes yn agor drysau i ystod eang o lwybrau proffesiynol, o fancio buddsoddi ac ymgynghoriaeth reoli i rolau mewn sefydliadau rhyngwladol o fri. 

Pam Economeg a Busnes yn Abertawe?

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff sy'n cael canmoliaeth uchel am eu heglurder, eu harbenigedd a'u gallu i wneud syniadau cymhleth yn hygyrch ac yn ysgogol. Mae myfyrwyr yn dweud yn aml pa mor ddeallusol ysgogol y mae'r cyrsiau, gan annog chwilfrydedd, meddwl yn annibynnol a dealltwriaeth ddyfnach. Cewch eich cefnogi a'ch ysgogi i gyflawni eich gorau drwy gydol eich astudiaethau, gan adlewyrchu ein diwylliant cryf o ragoriaeth academaidd a dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyrwyr.

Yn Abertawe gallwch wneud y canlynol:

  • Teilwra eich gradd i'ch diddordebau a'ch uchelgeisiau o ran gyrfa drwy ddewis o ystod eang o fodiwlau dewisol
  • Dysgu gan ddarlithwyr ag arbenigedd mewn ymchwil academaidd ac arfer diwydiannol
  • Ymuno â chymuned amrywiol a chroesawgar, gyda chyfoedion ledled y byd

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mae gofynion mynediad yna i roi arweiniad i chi, nid i fod yn rhwystr, a bydd ein cynnig wedi cael ei deilwra ar eich cyfer chi a beth rydym yn meddwl y medrwch chi ei gyflawni.

Rydym yn gwybod bod pethau'n gallu newid wrth i chi fynd drwy'r siwrnai. Gallwch siarad â ni am eich cynnig ar unrhyw gyfnod a byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn gynnig y medrwch chi ei gyflawni.

Eich Profiad Economeg a Busnes

Mae ein gradd yn cyfuno elfennau craidd economeg a busnes, mae'n rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gadarn i chi ddeall egwyddorion economaidd o ran amgylcheddau busnes, yn ogystal â'r dulliau dadansoddol a ddefnyddir wrth wneud penderfyniadau busnes a llunio strategaethau.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu'r sgiliau sylfaenol yn egwyddorion economeg drwy astudio modiwlau mewn microeconomeg, macroeconomeg, ystadegau a methodoleg ymchwil. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i dirwedd busnes a rheoli drwy fodiwl sy'n archwilio'r cysylltiadau rhwng sefydliadau, yr amgylchedd, cymdeithas a chenedlaethau'r dyfodol.

Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn cryfhau eich gafael ar offer dadansoddol a meintiol mewn economeg wrth ymgysylltu â chyrsiau rheoli sy’n fwyfwy ymarferol. Byddwch yn dysgu sut mae sefydliadau modern yn rheoli pobl a phrosiectau, sut i asesu cryfderau mewnol cwmni ac amgylcheddau allanol, a sut mae penderfyniadau strategol a thechnolegau newydd yn llywio busnesau llwyddiannus. Ar yr un pryd, byddwch yn cael mwy o hyblygrwydd i deilwra eich astudiaethau eich hun drwy Brosiect Ymgynghoriaeth Fusnes, lle byddwch yn cymhwyso eich sgiliau i her yn y byd go iawn gyda chleient.

Ymchwil sy'n llywio'r gwaith addysgu yn Abertawe, ac mae eich darlithwyr yn cyfuno arbenigedd academaidd a phrofiad o'r byd go iawn. Mae hyn yn golygu y byddwch yn elwa o ddealltwriaeth sy'n cysylltu damcaniaeth economaidd â chymhwysiad ymarferol, gan eich helpu i ddeall sut mae eich dysgu'n cyd-fynd ag economi fyd-eang heddiw.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae gan ein gradd BSc Economeg a Busnes enw da rhagorol am greu graddedigion sy'n perfformio'n arbennig.

Mae ein graddedigion yn barod am gyfleoedd cyflogaeth gwobrwyol sy'n heriol yn feddyliol o'r dechrau. Efallai fod gennych ddyheadau i fod yn entrepreneur, yr egni llawn pwysau o fod ar lawr masnachu neu'r hygrededd i fod yn awdurdod ar dueddiadau busnes, bydd y radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer unrhyw gyflogwr graddedigion.

Gallai eich gyrfa yn y dyfodol gynnwys rolau megis:

  • Ymgynghorydd Economegydd
  • Dadansoddwr Ymchwil
  • Rheolwr Prosiect
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Econometrydd
  • Entrepreneur

Mae graddedigion Abertawe'n mwynhau enw da rhagorol gyda llawer yn symud ymlaen i weithio i gwmnïau blaenllaw megis Barclays, HSBC, a PwC.

Economeg a Busnes, BSc (Anrh)

Economeg a Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Economeg a Busnes gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Economeg a Busnes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)