Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Datblygwch eich gwybodaeth o egwyddorion economaidd craidd

myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

A yw'r syniad o weithio i gwmni ariannol mawr yn eich cyffroi? A ydych yn gweld eich hun yn gweithio i rywun fel Barclays, HSBC neu PwC?

Gallai'r cwrs gradd BSc Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn. 

Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Economeg, y cwrs BSc Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes economeg, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Economeg yn yr Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Gall gradd mewn Economeg arwain at amrywiaeth enfawr o yrfaoedd, o fancio buddsoddi ac ymgynghoriaeth rheoli i wleidyddiaeth a swyddi rheoli mewn sefydliadau byd-eang. Mae gan Brifysgol Abertawe enw da iawn am gynhyrchu graddedigion o'r radd flaenaf y mae llawer ohonynt wedi symud ymlaen i weithio gyda'r cwmnïau ariannol mwyaf blaenllaw yn y byd.

Pam Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Mae Economeg yn Abertawe yn:

  • 17ydd yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)

Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol. Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd. Amrywiaeth o fyfyrwyr o fwy na 60 o wledydd gwahanol.

Eich Profiad Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae'r cwrs BSc Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn roi mantais gystadleuol wirioneddol i chi a bydd yn ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser chwilio am gyflogaeth.

Bydd yr addysgu cynnar yn rhoi sylfaen gynhwysfawr o wybodaeth i chi sy'n cwmpasu micro a macro-economeg, ystadegau, cyllid, cyfrifyddu a methodoleg.

Yn ystod blynyddoedd diweddarach bydd gennych fwy o ddewis o fodiwlau arbenigol mewn meysydd sy'n cwmpasu datblygu economaidd a mathemateg.

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn.

Cyfleoedd Cyflogaeth Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, byddwch mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n talu'n dda.
 
P'un ai'r egni a'r pwysau ar lawr masnachu neu'r hygrededd a geir drwy ddod yn awdurdod ar dueddiadau busnes sy'n mynd â'ch bryd, bydd y radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf i unrhyw un sy'n cyflogi graddedigion. Gallwch weithio yn unrhyw rai o'r swyddi canlynol yn y dyfodol:

  • Economegydd
  • Dadansoddwr, Ymchwilydd
  • Ymgynghorydd i'r Llywodraeth
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Masnachwr Deiliadau
  • Dadansoddwr Ariannol
  • Econometrydd

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

CCD-DDD

Economeg gyda Blwyddyn Sylfaen