Economeg a Busnes, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Gall gradd dda mewn Economeg a Busnes arwain at lawer o wahanol yrfaoedd, o fancio buddsoddi ac ymgynghoriaeth rheoli i wleidyddiaeth a swyddi rheoli mewn sefydliadau rhyngwladol.

Mae gan y cwrs gradd BSc Economeg a Busnes ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn am gynhyrchu graddedigion o safon uchel. Mae nifer o'r graddedigion hynny wedi symud ymlaen i weithio i'r cwmnïau mwyaf yn y byd fel Barclays, HSBC a PwC, a'r sefydliadau uchaf eu parch yn y byd, gan gynnwys nifer o gyrff llywodraethol. 

Mae'r cwrs gradd hwn yn cyfuno elfennau craidd economeg a busnes, ac mae'n ddelfrydol os hoffech ddilyn gyrfa ym maes gwleidyddiaeth, polisi, busnes neu gyllid.

Bydd yn rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gadarn i chi o egwyddorion economaidd mewn perthynas ag amgylcheddau busnes, yn ogystal â'r technegau dadansoddi a ddefnyddir wrth wneud penderfyniadau a llunio strategaethau ym myd busnes.

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu cymhwyso eich gwybodaeth a'ch sgiliau ymchwilio a chreu modelau yn hyderus er mwyn cynghori gwahanol fathau o sefydliadau. O fusnesau preifat i'r llywodraeth, gallwch gael effaith wirioneddol ar bolisi economaidd.

Pam Economeg a Busnes yn Abertawe?

Mae Economeg yn Abertawe yn:

  • 17ydd yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)

Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol. Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd. Amrywiaeth o fyfyrwyr o fwy na 60 o wledydd gwahanol.

Eich Profiad Economeg a Busnes

Mae'r cwrs Economeg a Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall y cyfleoedd hyn, sy'n rhai cyfoethog i chi ar lefel bersonol, wella eich sgiliau, datblygu eich persbectif ac ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser i chi ddod o hyd i waith.

Mae'r cwrs gradd hwn yn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o egwyddorion economaidd modern a materion cyfoes.

Bydd yr addysgu cynnar yn rhoi sylfaen gynhwysfawr o wybodaeth i chi sy'n cwmpasu micro a macro-economeg, ystadegau, cyllid, cyfrifyddu a methodoleg.

Yn ystod blynyddoedd diweddarach bydd gennych fwy o ddewis o fodiwlau arbenigol mewn meysydd sy'n cwmpasu busnes, gwleidyddiaeth, datblygu economaidd a mathemateg.

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych fynediad llawn i'n stiwdios arloesol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol i greu fideos a chynnwys digidol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Economeg a Busnes

Mae graddedigion Economeg a Busnes o Brifysgol Abertawe yn barod am gyfleoedd cyflogaeth sy'n talu'n dda ac sy'n rhoi her feddyliol iddynt.

P'un ai'r egni a'r pwysau ar lawr masnachu neu'r hygrededd a geir drwy ddod yn awdurdod ar dueddiadau busnes sy'n mynd â'ch bryd, bydd y radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf i unrhyw un sy'n cyflogi graddedigion. Gallwch weithio yn unrhyw rai o'r swyddi canlynol yn y dyfodol:

  • Economegydd
  • Dadansoddwr, Ymchwilydd
  • Ymgynghorydd i'r Llywodraeth
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Masnachwr Deiliadau
  • Dadansoddwr Ariannol
  • Econometrydd

Modiwlau

I ddechrau, mae'r astudiaethau'n rhoi sylfaen cadarn ichi ym meysydd micro-economeg, macro-economeg, cyllid, cyfrifeg a materion cyfredol, Yn ystod y blynyddoedd ar ôl hynny, gallwch ffocysu'ch astudiaethau drwy ddewis rhwng modiwlau arbenigol gwahanol yn ôl yr yrfa o'ch dewis, fel yr amlygir isod.

Economeg a Busnes

Economeg a Busnes gyda Blwyddyn Dramor

Economeg a Busnes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant