Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn gweld eich hun yn gweithio ym maes bancio buddsoddi, gwleidyddiaeth, neu hyd yn oed fel rheolwr mewn sefydliad rhyngwladol?
Gallai'r cwrs gradd BSc Economeg a Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.
Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Economeg a Busnes, y cwrs BSc Economeg a Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes economeg a busnes, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Economeg a Busnes yn yr Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Gall astudio economeg a busnes arwain at yrfa gyffrous. Drwy gydol y pedair blynedd, byddwch yn dysgu sut i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau ymchwilio a chreu modelau yn hyderus er mwyn cynghori gwahanol fathau o sefydliadau. O fusnesau preifat i'r llywodraeth, gallwch gael effaith wirioneddol ar bolisi economaidd.