Economics (Top Up Degree), BSc (Anrh)

Gallwch wella eich cymwysterau presennol gyda'r BSc Economeg (Gradd Atodol)

myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Sylwer: Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig.
Gall myfyrwyr o'r DU ystyried ein graddau Economeg eraill.

Mae BSc Economeg (Gradd Atodol) yn eich galluogi i ychwanegu at eich cymhwyster addysg uwch i gael gradd baglor hyd yn oed os nad ydych wedi astudio Economeg o'r blaen. 

Mae ein gradd atodol sy'n para blwyddyn yn canolbwyntio ar elfennau craidd economeg fel Microeconomeg, Macroeconomeg, Econometreg a dulliau meintiol sy'n ddeniadol i ymgeiswyr sydd â chefndir mewn pynciau fel mathemateg, gwyddoniaeth, cyllid neu ystadegau.

Mae modiwlau sy'n rhan o'r radd atodol yn cael eu haddysgu ar y cyd â'r rhaglen BSc Economeg gan sicrhau eich bod yn elwa o garfannau cymysg ac yn meithrin dealltwriaeth o ystod amrywiol o ddiwylliannau a chefndiroedd i wella eich dealltwriaeth drawsddiwylliannol a datblygu rhwydweithiau.

Pam Economics (Top Up Degree) yn Abertawe?

Gallwch ennill gwybodaeth yn y byd go iawn gan ein darlithwyr sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang sydd â phrofiad heb ei ail ym myd diwydiant a'r byd academaidd a bod yn rhan o gymuned myfyrwyr amrywiol sy'n hanu o dros 60 o wledydd gwahanol.

Mae Economeg yn Abertawe:

  • Yn yr 17eg safle am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)

Eich Profiad Economics (Top Up Degree)

Mae ein gradd Economeg (Gradd Atodol) yn darparu dealltwriaeth o egwyddorion economaidd modern a sylfaen wybodaeth gynhwysfawr o ficroeconomeg a macroeconomeg, mathemateg, ystadegau, ystyriaethau methodolegol a meysydd pwnc cymhwysol.

O'ch diwrnod cyntaf yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad i wella eich rhagolygon gyrfa. 

Byddwch yn cael cyngor wedi'i deilwra i'ch anghenion gan ein tîm gyrfaoedd arbenigol drwy gydol eich rhaglen. Efallai byddwch chi'n gallu gwneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN)

Cewch gyfle i gymryd rhan mewn fforymau a gynhelir gan Gymdeithas Economeg Prifysgol Abertawe; cwrdd ag entrepreneuriaid llwyddiannus a dysgu ganddynt a chael cyngor busnes gan gynghorwyr proffesiynol, yn ogystal â chael cyfle i gyflwyno am gyllid sbarduno a mentoriaeth drwy gystadleuaeth gyflwyno flynyddol y Gyfadran.

Drwy 'astudio dramor yn y DU' i bob pwrpas, cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau Saesneg yn sylweddol a chael gwell ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol, rhinweddau y mae galw mawr amdanynt yn y farchnad swyddi.

Cyfleoedd Cyflogaeth Economics (Top Up Degree)

Mae graddedigion Economeg o Brifysgol Abertawe yn barod am gyfleoedd cyflogaeth sy'n talu'n dda ac sy'n rhoi her feddyliol iddynt.

P'un ai'r egni a'r pwysau ar lawr masnachu neu'r hygrededd a geir drwy ddod yn awdurdod ar dueddiadau busnes sy'n mynd â'ch bryd, bydd y radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf i unrhyw un sy'n cyflogi graddedigion. Gallwch weithio yn unrhyw rai o'r swyddi canlynol yn y dyfodol:

  • Economegydd
  • Dadansoddwr, Ymchwilydd
  • Ymgynghorydd i'r Llywodraeth
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Masnachwr Deiliadau
  • Dadansoddwr Ariannol
  • Econometrydd

Mae gan y radd BSc Economeg, y mae'r radd Economeg (Gradd Atodol) yn ei chysgodi, enw rhagorol am feithrin graddedigion elît, y mae llawer ohonynt wedi symud ymlaen i weithio gyda brandiau blaenllaw fel Barclays, HSBC a PwC.

Yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer yr yrfa o'ch dewis yn y farchnad economeg fyd-eang, mae'r radd hon yn berffaith ar gyfer y rhai hynny sydd ag uchelgeisiau i ddatblygu eu haddysg ar lefel ôl-raddedig. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus â dosbarthiad ail ddosbarth uwch neu uwch, caiff myfyrwyr eu harfogi i gael mynediad at raglenni ôl-raddedig perthnasol fel MSc Economeg.

Modiwlau

  

Economics (Top Up Degree), BSc (Hons)