Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r byd yn wynebu nifer o faterion pryderus. Mae newid yn yr hinsawdd yn arwain at ansefydlogrwydd ecolegol cynyddol, gan arwain at drychinebau naturiol a mudo torfol; mae materion economaidd sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn arwain at ddiffynnaeth a rhyfeloedd masnach, dad-ddiwydiannu a newidiadau cyflym i fyd gwaith; yn y cyfamser, mae ansicrwydd a newid cymdeithasol cyflym wedi ysgogi cynnydd mudiadau poblyddol radical ledled y byd.
Mae'r argyfyngau hyn yn fyd-eang eu natur ond maent yn effeithio ar gymunedau lleol, gan gynnwys yma yng Nghymru, lle rydym yn wynebu problemau cymdeithasol anodd gan gynnwys tlodi ac anghydraddoldebau cymdeithasol; digartrefedd, dibyniaeth, troseddu a charcharu; hiliaeth ac anoddefgarwch; ac amodau tywydd eithafol fel llifogydd a thanau coedwig.
Gall cymdeithaseg ein helpu i wneud synnwyr o'n byd sy'n newid yn gyflym a'r problemau cymdeithasol a welwn o'n cwmpas bob dydd.
Bydd astudio ar gyfer gradd Cymdeithaseg yn Abertawe yn rhoi i chi'r sylfeini damcaniaethol ac ymarferol hanfodol ar gyfer deall ein byd sy'n newid yn gyflym, yn ogystal â'r adnoddau i geisio ei newid. Byddwch yn dysgu am ymddygiad pobl fel bodau cymdeithasol yn ogystal â'r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd ehangach sy'n strwythuro ein cymdeithas.
Yn ogystal â datblygu arbenigedd pwnc penodol mewn damcaniaeth gymdeithasol, byddwch yn dysgu sut i astudio problemau cymdeithasol a phobl fel gwyddonydd cymdeithasol drwy hyfforddiant ymarferol mewn dulliau ymchwil. Byddwch yn dysgu sut i greu gwybodaeth newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o offer ymchwil gymdeithasol ansoddol a meintiol, o arolygon cymdeithasol mawr a ddehonglir drwy ystadegau, i gyfweliadau manwl ag unigolion a grwpiau bach, ac arsylwadau ethnograffig.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil, cyfathrebu a chyflwyno rhagorol, ynghyd â'r gallu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol ac adeiladu dadleuon o amgylch y materion cymdeithasol cymhleth sy'n effeithio ar bob un ohonom.