Cymdeithaseg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Maisie

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd astudio gradd Cymdeithaseg yn rhoi’r sylfaen ddamcaniaethol hanfodol i chi ddeall ymddygiad pobl fel bodau cymdeithasol, yn ogystal â’r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd ehangach sy’n dylanwadu ar ein cymdeithas sy’n newid yn gyson.

Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i'r cysyniadau allweddol a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i'r BSc mewn Cymdeithaseg. Ar ôl iddynt gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc. 

Cyflwynir y flwyddyn sylfaen (lefel 3) gan y Coleg, Prifysgol Abertawe (TCSU). Cyflwynir  blynyddoedd 2 i 4 (lefelau 4 i 6) gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Byddwch yn dysgu sut i gynhyrchu gwybodaeth newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o offer ymchwil gymdeithasol ansoddol a meintiol, o arolygon cymdeithasol mawr a ddehonglir drwy ystadegaeth i gyfweliadau manwl gydag unigolion a grwpiau bach.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio, cyfathrebu a chyflwyno ardderchog, ynghyd â'r gallu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol a llunio dadleuon ynghylch y materion cymdeithasol cymhleth sy'n effeithio ar bob un ohonom ni.

Pam Cymdeithaseg gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Mae ein strwythur gradd hyblyg gydag ystod eang o fodiwlau arbenigol yn rhoi cyfle i chi deilwra eich cwrs i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau gyrfaol, neu gynlluniau ar gyfer astudio pellach. 

Mae Cymdeithaseg yn Abertawe:

  • Yn y 20 adran orau yn y DU am Rhagolygon Raddedigion (Complete University Guide 2025)
  • Yn y 25 adran orau yn y DU (Complete University Guide 2025)

Eich Profiad Cymdeithaseg gyda Blwyddyn Sylfaen

Wedi'ch seilio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, byddwch mewn amgylchedd ymchwil a dysgu dynamig gyda llawer o gyfleoedd i feithrin cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig.

Ynghyd â'n cryfder academaidd ac ymchwil fel adran, mae gennym hefyd ffocws cryf iawn ar eich cefnogi chi i ddatblygu'r sgiliau ymarferol a'r priodoleddau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, megis arsylwi, dehongli, prosesu gwybodaeth, cyfathrebu a chyflwyno.

Yn eich ail flwyddyn a'ch trydedd flwyddyn, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith mewn awdurdodau lleol, busnesau, lleoliadau gofal iechyd, lleoliadau addysg ac elusennau, gan ddibynnu ar eich diddordebau a'ch nodau gyrfa.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cymdeithaseg gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae gradd mewn Cymdeithaseg yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa a chyfleoedd i astudio ymhellach. Mae graddedigion wedi symud ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys:

  • Gwaith ieuenctid
  • Addysg
  • Ymchwil
  • Newyddiaduraeth
  • Datblygu polisi
  • Y gyfraith, yr heddlu a gwasanaethau prawf
  • Marchnata a Hysbysebu
  • Ecoleg a Chynllunio Amgylcheddol
  • Adnoddau Dynol

Yn dibynnu ar y sector, gall graddedigion Cymdeithaseg ddisgwyl ennill cyflog blynyddol o £22,000 ar gyfartaledd, gan gynyddu i £50,000 ar gyfer swyddi ar lefel uwch.

Hefyd, gall y radd mewn Cymdeithaseg fod yn ffordd o symud ymlaen at hyfforddiant proffesiynol a galwedigaethol pellach mewn meysydd fel addysgu a gwaith cymdeithasol.

Modiwlau

Crynodeb o’r modiwl: 

Cymdeithaseg gyda Blwyddyn Sylfaen