Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
student image generic

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn archwilio sut mae cymdeithasau'n gweithio a sut y gellir dylanwadu ar eu dyfodol. O'r lleol i'r byd-eang, y personol i'r strwythurol, mae'n archwilio heriau presennol allweddol, dadleuon beirniadol, ac atebion bywyd go iawn.  

Byddwch yn archwilio'r ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar ein profiad beunyddiol o fywyd cymdeithasol, yn ogystal â sut mae cymdeithas yn nodi anghenion, yn hyrwyddo lles ac yn dyrannu adnoddau. Byddwch yn archwilio materion o bwys fel cyfiawnder cymdeithasol, anghydraddoldeb, iechyd, addysg a mudiadau cymdeithasol, gan eu cysylltu â thueddiadau'r presennol a phosibiliadau'r dyfodol. 

Pam Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn Abertawe?

Mae gan ein rhaglen radd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol enw da o fri; 

Mae Polisi Cymdeithasol yn Abertawe yn y safleoedd canlynol: 

  • Yn y 5ed safle yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026) 
  • Ar y brig yn y DU* â sgôr o 100% am Foddhad Cyffredinol** (NSS 2025) 
  • Yn yr 8fed safle yn y DU (Daily Mail University Guide 2026) 

Mae Cymdeithaseg yn Abertawe yn y safleoedd canlynol: 

  • 9fed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026) 
  • Ymysg yr 20 adran orau yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Complete University Guide 2026) 

Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnig cymuned academaidd fywiog ac amrywiol. Mae gan ein staff addysgu craidd broffil rhyngwladol cryf mewn ymchwil, ac maent yn ymgynghori'n rheolaidd ar bolisi yng Nghymru, y DU a'r tu hwnt.  

*Yn seiliedig ar y sgôr agwedd gadarnhaol gyfartalog ar gyfer cwestiynau 1-26, NSS 2025 

**C28, NSS 2025 

Eich Profiad Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Mae ein strwythur gradd hyblyg yn cynnig ystod eang o fodiwlau arbenigol, gan roi'r cyfle i chi deilwra'ch cwrs i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau gyrfa, neu'ch cynlluniau ar gyfer astudiaethau pellach. 

Er mwyn cyfoethogi eich dysgu, rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau fel teithiau maes i leoedd o ddiddordeb cymdeithasol a gwleidyddol, gan gynnwys y Senedd, Big Pit, Cwch Copperjack Abertawe, Pencadlys Heddlu De Cymru a Charchar Abertawe. Rydym hefyd yn croesawu siaradwyr gwadd yn rheolaidd i rannu eu gwybodaeth arbenigol mewn gweithdai a seminarau, gan roi cyfle i chi glywed yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol ar draws y sector.  

Byddwch yn cael y cyfle i dreulio naill ai Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant, gan eich galluogi i ddewis y llwybr mwyaf addas i'ch diddordebau a'ch uchelgeisiau yn y dyfodol. Gallwch dreulio'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr i chi o'r gweithle.  Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. 

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Mae gradd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn agor ystod eang o gyfleoedd am astudiaethau pellach neu yrfaoedd. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys: 

  • lect

Gan ddibynnu ar y sector, gall graddedigion Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ddisgwyl ennill cyflog blynyddol cyfartalog o £22,000, sy'n codi i £50,000 ar gyfer swyddi uwch. 

Gall y radd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol hefyd fod yn borth i hyfforddiant proffesiynol a galwedigaethol pellach mewn meysydd fel addysgu a gwaith cymdeithasol. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Cymdeithaseg a Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Cymdeithaseg a Polisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)