Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students in the school of law

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd gradd israddedig mewn Troseddeg yn rhoi’r cyfle i chi archwilio’r nifer o ffactorau sydd ynghlwm wrth ymddygiad troseddol, a sut mae cymdeithas yn ymateb drwy’r system cyfiawnder troseddol.

Byddwch yn astudio damcaniaethau pwysicaf troseddu a gwyriad a'u perthnasedd at bolisi cyfiawnder troseddol, ymchwil ac arfer gyfoes.

Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn ennill gwybodaeth ddofn o  strwythurau'r system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys y llysoedd, carchardai, y Gwasanaeth Prawf a'r Heddlu.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio a dadansoddi rhagorol ac yn dysgu i gyflwyno'ch syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Pam Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn Abertawe?

Wrth astudio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, cewch eich ymdrochi mewn amgylchedd ymchwil a dysgu deinamig sy’n cynnig nifer o gyfleoedd i greu cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig. 

Mae Troseddeg yn Abertawe ymhlith y:

  • 3ydd yn y DU ar gyfer Rhagolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2025)
  • Ymhlith y 25 uchaf yn y DU yn gyffredinol (Guardian University Guide 2025)

Eich Profiad Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Mae strwythur hyblyg ein gradd gydag amrywiaeth o fodiwlau opsiynol yn yr ail a'r drydedd flwyddyn yn rhoi digon o gyfle i chi deilwra eich astudiaethau i'ch diddordebau, eich amcanion gyrfa neu'ch uchelgeisiau chi o ran astudio ôl-raddedig.

Gallwn eich cefnogi wrth drefnu cyfleoedd lleoliadau gwaith mewn amrywiaeth eang o leoliadau, yn y DU a thramor.

Cyfleoedd Cyflogaeth Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Gall astudio BSc mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Abertawe arwain at amrywiaeth o yrfaoedd. Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i amrywiaeth eang o alwedigaethau, gan gynnwys gweithio mewn:

Datblygu Cymunedol, Cyfiawnder Troseddol, Llywodraeth Leol, Yr Heddlu, Astudiaethau Ôl-raddedig, y Gwasanaeth Carchardai, y Gwasanaeth Prawf, Ymchwil, Gwaith Cymdeithasol, Addysg, Hyfforddiant, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Cymorth i Ddioddefwyr a Mudiadau Gwirfoddol.

Modiwlau

Strwythur modiwlau BSc mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.

Mae Blwyddyn 1 yn cynnwys set o fodiwlau craidd gorfodol, sy'n amrywio o'r system cyfiawnder troseddol i droseddau a'r gymdeithas.

Mae Blwyddyn 2 yn cynnwys tri modiwl gorfodol ond bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi astudio o leiaf tri modiwl arall o'ch dewis.

Erbyn Blwyddyn 3, byddwch yn gallu llywio'ch profiad dysgu, gan ddewis o amrywiaeth o fodiwlau blwyddyn olaf.

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant