Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd BSc Troseddeg a Chymdeithaseg integredig yn cyfuno dwy ddisgyblaeth gwyddor gymdeithasol gyffrous a chyflenwol. Un o nodweddion unigryw ein rhaglen BSc Troseddeg a Chymdeithaseg yw'r hyblygrwydd y mae'n ei gynnig. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn deall bod gan bob myfyriwr ddiddordebau, uchelgeisiau a nodau gyrfa unigryw. Dyna pam rydyn ni'n rhoi'r rhyddid i chi gynllunio strwythur gradd sy'n addas i chi.
Gallwch ddewis ymdrochi'n gyfan gwbl yn y ddwy ddisgyblaeth, neu ganolbwyntio mwy ar un maes gan barhau i elwa o fewnwelediadau o'r llall. Mae'r strwythur yn eich galluogi i bersonoli'ch astudiaethau i gyd-fynd â'ch uchelgeisiau, os ydych chi'n dyheu am yrfa mewn cyfiawnder troseddol, ymchwil gymdeithasol, datblygu polisi, neu unrhyw faes sy'n gysylltiedig â chyfiawnder cymdeithasol.
Byddwch yn astudio datblygiad safbwyntiau Cymdeithaseg a Throseddeg a dysgu pam mae'r rhain mor bwysig yn y gymdeithas gyfoes.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn cael gwybodaeth fanwl o faterion cymdeithasol a throseddu hanfodol, megis defnyddio sylweddau, tai a thlodi.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n berthnasol i gyflogaeth yn y dyfodol, mewn proffesiynau sy'n gysylltiedig â'r gwyddorau cymdeithasol, ac yn llawer ehangach hefyd.