Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students in the school of law

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r radd gydanrhydedd hon mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol yn cyfuno dau faes pwnc cyffrous sy’n datblygu’n gyflym, ac mae gan y ddau ohonynt ddylanwad enfawr ar fywydau pob un ohonom.

Byddwch yn ymchwilio i theorïau a thrafodaethau allweddol sy'n ymwneud â sut mae cymdeithas yn diwallu anghenion ei dinasyddion a'r ffyrdd y mae polisïau cymdeithasol yn cael eu llywio gan yr achosion ac effeithiau troseddu ar unigolion a chymunedau.

Byddwch yn archwilio themâu a gwerthoedd megis cyfiawnder troseddol, cydraddoldeb, tegwch a dinasyddiaeth, ochr yn ochr â phrif bwyntiau polisi megis troseddu, iechyd, addysg, tai, anabledd, tlodi a'r teulu, yn ogystal ag ennill dealltwriaeth gadarn o'r system cyfiawnder troseddol.

Trwy gydol eich gradd gydanrhydedd, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Pam Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol yn Abertawe?

Mae Troseddeg yn Abertawe ymhlith y:

  • 3ydd yn y DU ar gyfer Rhagolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2025)
  • Ymhlith y 25 uchaf yn y DU yn gyffredinol (Guardian University Guide 2025)

Mae Polisi Cymdeithasol yn Abertawe:

  • 1af yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)
  • 1af yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
  • 7ydd yn y DU am Lais y Myfyrwyr (NSS 2024*)
  • 11eg yn y DU am Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide 2025)

*Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol ar draws cwestiynau 22 i 25 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 o’n cymharu ni â phrifysgoloion eraill yn y Times Good University Guide

Eich Profiad Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol

Mae strwythur hyblyg ein gradd gydag amrywiaeth o fodiwlau opsiynol yn yr ail a'r drydedd flwyddyn yn rhoi digon o gyfle i chi deilwra eich astudiaethau i'ch diddordebau, eich amcanion gyrfa neu'ch uchelgeisiau chi o ran astudiaethau ôl-raddedig.

Wrth astudio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, cewch eich ymdrochi mewn amgylchedd ymchwil a dysgu deinamig sy’n cynnig nifer o gyfleoedd i greu cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol

Mae gradd mewn Polisi Cymdeithasol a Throseddeg yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa ac astudio pellach. Gallech symud ymlaen i:

  • Astudiaethau ôl-raddedig
  • Swyddi ymchwil mewn prifysgolion a chwmnïau ymchwil cymdeithasol preifat
  • Rolau ymchwilio i bolisïau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector
  • Datblygu cymunedol
  • Rolau yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys yr Heddlu, cymorth i ddioddefwyr, carchardai a'r Gwasanaeth Prawf
  • Gwaith cymdeithasol
  • Addysgu

Modiwlau

Strwythur modiwlau BSc mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol.

Bydd eich astudiaethau cynnar yn eich cyflwyno i egwyddorion allweddol y gyfraith, cyfiawnder troseddol, hawliau dynol a chymdeithaseg, hanes a gwleidyddiaeth polisi cymdeithasol.

Mae opsiynau'n ddiweddarach yn eich galluogi chi i ganolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid, eithafiaeth, rheoli troseddwyr, cyffuriau ac alcohol, tlodi ac allgáu cymdeithasol.

Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol

Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol

Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant