Ynglŷn â'r Cwrs
Mae'r BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn ffordd arloesol a hyblyg i unigolion ennill gradd mewn Peirianneg Meddalwedd tra byddant mewn cyflogaeth. Dim ond i weithwyr cwmnïau a sefydliadau rhanbarthol y mae'r cwrs ar agor. Mae'r rhaglen yn 3 blynedd o hyd, lle mae pob blwyddyn yn cynnwys tri thymor. Cynhelir darlithoedd a labordai ar y campws bob dydd Mercher rhwng 1pm ac 8pm.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio gyda chefnogaeth panel cynghori diwydiannol er mwyn llenwi bylchau sgiliau presennol yn y diwydiant. Mae'n cwmpasu holl ehangder Peirianneg Meddalwedd, gan gyfuno addysgu academaidd traddodiadol â dysgu seiliedig ar waith. Mae 25% o'r asesiad yn seiliedig ar drosglwyddo gwybodaeth academaidd i'r gweithle.
Os ydych chi'n chwilio am gwrs Prifysgol sy'n berthnasol i'r sector TG ac y gellir ei gwblhau wrth weithio, yna mae'r BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn opsiwn delfrydol. Mae'r rhaglen o fudd i chi trwy ddatblygu eich gwybodaeth a'ch cyfleoedd gyrfa, tra hefyd yn hyrwyddo llwyddiant eich cyflogwr.