Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
criminology and psychology

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein cwrs BSc mewn Troseddeg a Seicoleg yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi ar y gydberthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad ynghyd â dealltwriaeth fanwl o ddamcaniaeth cyfiawnder troseddol a'r cysylltiadau rhwng y ddau faes hyn.

Byddwch yn astudio'r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy'n sail i weithgareddau fel meddwl, rhesymu, cof ac iaith, dysgu am effeithiau anaf i'r ymennydd ac ymchwilio i ffyrdd o wella ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Byddwch yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o'r damcaniaethau pwysicaf mewn perthynas â throsedd a gwyriad a'u perthnasedd i bolisi, ymchwil ac ymarfer ym maes cyfiawnder troseddol cyfoes.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwilio, dadansoddi beirniadol a chyfathrebu rhagorol, yn ogystal â lefel uchel o allu rhifedd a TGCh.

Pam Troseddeg a Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae gan ein Hadran Seicoleg enw rhagorol yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn yr asesiad ymchwil diweddaraf, roeddem yn falch o gynnal ein diwylliant ymchwil gyda hanes cryf o drosi gwyddoniaeth yn ganlyniadau byd go iawn, gyda 100% o'n heffaith yn cael ei hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol (REF2021).

Mae Troseddeg yn Abertawe ymhlith y:

  • 3ydd yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2025)

Mae'r radd mewn Seicoleg wedi'i dilysu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ac, ar yr amod eich bod yn cael o leiaf 2:2 yn eich gradd, byddwch yn gymwys i fod yn Aelod Graddedig o BPS ac i gael y Sail Raddedig am Aelodaeth Siartredig (GBC), sef y cam cyntaf tuag at ddod yn Seicolegydd Siartredig.

Eich profiad ym maes Troseddeg a Seicoleg

Mae ein strwythur gradd hyblyg sy'n cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol yn y drydedd flwyddyn yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau yn unol â'ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfa neu'ch uchelgeisiau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.

Gallwch drosglwyddo i'n cwrs pedair blynedd BSc Troseddeg a Seicoleg gyda Blwyddyn Dramor a threulio eich trydedd flwyddyn yn cyfoethogi eich sgiliau a'ch profiad yn un o'n prifysgolion partner yn Awstralia, Canada, yr Almaen, Hong Kong, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Gwlad Pwyl a'r Unol Daleithiau.

Gyrfaoedd Troseddeg a Seicoleg

Gan mai'r radd hon sydd wedi'i hachredu gan BPS yw'r cam cyntaf tuag at ddilyn gyrfa broffesiynol ym maes Seicoleg, mae llawer o'n graddedigion wedi symud ymlaen i astudiaethau pellach neu waith mewn meysydd arbenigol sy'n gysylltiedig â seicoleg.

Y cyflog cychwynnol arferol ar gyfer seicolegydd clinigol dan hyfforddiant yn y GIG yw £35,392. Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, gallech ennill rhwng  £50,056 ac £96,376 neu fwy. Mae cyflogau mewn practisau preifat yn amrywio.

Byddwch hefyd yn cael llawer o gyfleoedd yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys rolau gyda'r heddlu, cymorth i ddioddefwyr a charchardai a gwasanaethau prawf.

Hefyd, bydd y profiad a'r sgiliau y byddwch yn eu meithrin ar y cwrs hwn yn eich paratoi'n dda ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd eraill yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â sectorau mor amrywiol â rheoli, ymchwil a marchnata. 

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn cyflwyno egwyddorion allweddol y gyfraith, cyfiawnder troseddol, hawliau dynol, ystadegau a dulliau ymchwil i chi, yn ogystal ag agweddau ar seicoleg fiolegol, cymdeithasol a datblygiadol.

Bydd yr opsiynau diweddarach yn eich galluogi i ganolbwyntio ar amrywiaeth o opsiynau ym maes troseddeg a seicoleg ochr yn ochr â modiwlau craidd gorfodol.

Troseddeg a Seicoleg

Criminology and Psychology with a Year Abroad, BSc (Hons)