Benthyciadau a Grantiau
Bydd y mwyafrif o fyfyrwyr y DU yn cwrdd â chostau eu Ffioedd Dysgu a’u costau byw drwy wneud cais am gymorth ariannol ar-lein drwy eu gwefannau Cyllid Myfyrwyr perthnasol. Bydd yr hyn y mae gennych hawl i’w dderbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, ble yr ydych yn byw, beth yr ydych yn ei astudio, ac ar ba lefel.
- Rydw i’n byw yng Nghymru
- Rydw i’n byw yn Lloegr (gwybodaeth ar gael yn Saesneg yn unig)
- Rydw i’n byw yn yr Alban (gwybodaeth ar gael yn Saesneg yn unig)
- Rydw i’n byw yng Ngogledd Iwerddon (gwybodaeth ar gael yn Saesneg yn unig)
- Rydw i'n wladolyn yr UE
- • Nid oes gan Fyfyrwyr Rhyngwladol hawl i ariannu statudol ond mae’n bosib y byddant yn gallu gwneud cais am gyllid trwy’r Brifysgol. (mae’r wybodaeth hon ar gael yn Saesneg yn unig)
Os ydych chi wedi cael caniatâd a hawliau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys caniatâd drwy'r cynlluniau i bobl Affganistan ac Wcráin, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Sylwer y bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei chyflwyno fel canllaw, a chynghorir myfyrwyr i gysylltu â darparwr eu cyllid er mwyn cadarnhau a ydynt yn gymwys am gyllid myfyrwyr ac a oes hawl ganddynt i gael hynny. Nid yw arian gan Gyllid Myfyrwyr ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio modiwlau fel myfyriwr allanol.
Mae gwybodaeth benodol am ariannu gennym hefyd i fyfyrwyr sydd am astudio:
- Cwrs a Ariannir gan y GIG
- Gwaith Cymdeithasol
- Meddygaeth i Raddedigion
- Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig mewn Addysg
I gael gwybodaeth am gyllid ôl-raddedig, ewch at ein tudalennau Ffioedd ac Ariannu Ôl-raddedig
Mae angen ad-dalu benthyciadau myfyrwyr, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfnod yr ad-daliadau hyn ar ein tudalen Fyfyriwr+.
Efallai y bydd gennych hawl hefyd i gael cyllid neu gymorth ychwanegol yn dibynnu ar eich amgylchiadau, ewch i'r tudalennau perthnasol i gael mwy o wybodaeth am gefnogaeth i fyfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn Sharia Compliant Finance, gweler ein tudalen we bwrpasol sydd ar gael yma.
Cofiwch – Mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael. Maen nhw wedi’u darparu gan Brifysgol Abertawe i hyrwyddo rhagoriaeth ac i ehangu cyfranogiad.
Rydym yn gwerthfawrogi efallai mai benthyciadau o ffynonellau eraill yw'r unig opsiwn addas sydd ar gael i rai myfyrwyr barhau â'u hastudiaethau. Gweler ein tudalen Ffynonellau Amgen o Gyllid i gael mwy o wybodaeth. Sylwch y bydd hyn yn mynd â chi i'n tudalen cyllid Ôl-raddedig ond gall rhai ffynonellau cyllid fod ar gael i Israddedigion. Rhaid inni bwysleisio nad oes gennym unrhyw gysylltiad â chwmnïau benthyciadau masnachol ac anogwn pob myfyriwr i archwilio'r opsiynau uchod cyn ystyried ffynonellau cyllid mewn man arall.