Rydw i'n byw yn Yr Alban
Benthyciadau a Grantiau
Rydym yn dal i aros i'r union ffigurau ar gyfer 2024/25 gael eu cyhoeddi, ond nid ydym yn disgwyl unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffigurau a nodir isod ar gyfer 2024/25.
Benthyciad Ffioedd Dysgu
Gall myfyrwyr sy’n byw yn yr Alban ac sy’n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2024/25 wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu (yn amodol ar delerau ac amodau). Gallant wneud hyn drwy wneud cais i Student Award Agency for Scotland (SAAS).
| Cyllid | Swm pob blwyddyn academaidd |
|---|---|
| Cost Ffioedd Dysgu | £9000 |
| Benthyciad Ffioedd Dysgu (Uchafswm) | £9000 |
Caiff taliadau Benthyciad Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau o flaen llaw.
Benthyciadau a Bwrsariaethau Cynhaliaeth
Mae ariannu tuag at gostau byw myfyrwyr yn cynnwys benthyciadau a bwrsariaethau cynhaliaeth. Bydd y swm y mae gennych hawl i'w dderbyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw ac incwm eich cartref fel y dangosir yn y tabl isod. Bydd graddfa'r benthyciad myfyriwr y byddwch yn ei derbyn yr un peth boed eich bod yn byw gartref neu oddi cartref.
Bwrsariaethau Myfyrwyr Ifainc (YSB)
Caiff uchafswm bwrsariaeth o £1,875 ei thalu os yw incwm eich aelwyd yn £18,999 y flwyddyn neu'n llai. Os yw incwm eich aelwyd dros £34,000 y flwyddyn yna ni fyddwch yn gymwys i dderbyn YSB a bydd eich cymorth costau byw cyfan drwy fenthyciad myfyriwr.
| Incwm y Cartref | Bwrsariaeth | Benthyciad | CYFANSWM |
|---|---|---|---|
| Hyd at £20,999 | £2000 | £9400 | £11400 |
| £21,000 i £23,999 | £1125 | £9400 | £10525 |
| £24,000 i £33,999 | £500 | £9400 | £9900 |
| £34,000 ac uwch | £0 | £8400 | £8400 |
Bwrsariaeth Myfyrwyr Annibynnol (ISB)
Yr uchafswm a fydd ar gael fydd £875 os yw incwm eich cartref yn £18,999 y flwyddyn neu'n llai neu os ydych chi'n sengl. Os yw incwm eich cartref dros £19,000 y flwyddyn ni fyddwch yn gymwys i dderbyn ISB a bydd eich cymorth costau byw cyfan drwy fenthyciad myfyriwr.
| Incwm y Cartref | Bwrsariaeth | Benthyciad | CYFANSWM |
|---|---|---|---|
| Hyd at £20,999 | £1000 | £10400 | £11400 |
| £21,000 i £23,999 | £0 | £10400 | £10400 |
| £24,000 i £33,999 | £0 | £9900 | £9900 |
| £34,000 ac uwch | £0 | £8400 | £8400 |
Telir taliadau cynhaliaeth yn uniongyrchol i chi mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhandaliad cyntaf i chi ar ôl i chi ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod (telir y ddwy ran sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf).
Grantiau Atodol
Gall myfyrwyr sydd â phlant dibynnol, oedolion dibynnol, anabledd neu sydd wedi'u dosbarthu fel rhai sydd wedi cael profiad gofal neu wedi ymddieithrio fod â hawl i gymorth ychwanegol.
Am wybodaeth lawn a meini prawf, cyfeiriwch at dudalen we ariannu SAAS.
Os oes gennych amgylchiadau ychwanegol pellach, efallai y bydd cymorth a chyllid ychwanegol ar gael
Cofiwch - Mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael. Cânt eu darparu gan Brifysgol Abertawe i hyrwyddo rhagoriaeth ac i ehangu cyfranogiad.
Ewch i'n tudalen benodol os bydd angen gwybodaeth bellach arnoch am Cyfraith Sharia