Rydw i'n byw yn Ngogledd Iwerddon
Benthyciadau a Grantiau
Gogledd Iwerddon
Benthyciad Ffioedd Dysgu
Gall myfyrwyr sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon ac sy’n dechrau eu hastudiaethau ym mlwyddyn academaidd 2021/22 wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu cost lawn eu ffioedd dysgu (yn amodol ar delerau ac amodau). Gallant wneud hyn drwy wneud cais i Student Finance NI.
Cyllid | Swm pob blwyddyn academaidd |
---|---|
Cost Ffioedd Dysgu | £9000 |
Benthyciad Ffioedd Dysgu (Uchafswm) | £9250 |
Caiff taliadau Benthyciad Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau o flaen llaw.
Benthyciad a Grantiau Cynhaliaeth
Mae ariannu tuag at gostau byw myfyrwyr yn cynnwys benthyciadau a grantiau cynhaliaeth. Bydd y swm yr ydych yn gymwys i’w dderbyn yn dibynnu ar ble yr ydych yn byw ac incwm eich cartref, fel sydd wedi’i ddangos yn y tabl isod.
Incwm y Cartref | Grant Cynhaliaeth | Benthyciad Cynhaliaeth – Byw oddi cartref | Benthyciad Cynhaliaeth – Byw yng nghartref eich rhieni |
---|---|---|---|
£19203 | £3475 | £2953 | £1863 |
£25000 | £2201 | £3289 | £2199 |
£30000 | £1215 | £3625 | £2535 |
£35000 | £689 | £4151 | £3061 |
£41540 | £0 | £4840 | £3750 |
£45000 | £0 | £4476 | £3386 |
£53035+ | £0 | £3630 | £2812 |
Telir taliadau cynhaliaeth yn uniongyrchol i chi mewn 3 rhandaliad. Telir eich rhan gyntaf i chi ar ôl i chi ymrestru a chasglu eich cerdyn adnabod (telir y ddwy ran sy’n weddill ar ddiwrnod cyntaf tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf).
Grantiau Atodol
Gallai myfyrwyr sydd â phlant dibynnol, costau gofal plant, oedolion dibynnol, anabledd, neu sy’n gadael gofal fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol.
Grant | Yr uchafswm sydd ar gael | A yw'n destun prawf moddion? | Ffurflen Gais |
---|---|---|---|
Lwfans Dysgu i Rieni (PLA) | £1538 | Yes | PN1 |
Grant Oedolion Dibynnol (ADG) |
£2695 | Yes | PN1 |
Grant Gofal Plant (CCG) |
85% o’r gost i hyd at uchafswm o: 1 Plentyn - £148.75 yr wythnos 2+ Plentyn - £255.00 yr wythnos |
Yes | CCG1 |
Os oes gennych amgylchiadau ychwanegol pellach, efallai y bydd cymorth ac ariannu ychwanegol ar gael. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalen we Myfyriwr+
Cofiwch - Mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael. Cânt eu darparu gan Brifysgol Abertawe i hyrwyddo rhagoriaeth ac i ehangu cyfranogiad.
Ewch i'n tudalen we benodol os oes angen gwybodaeth bellach am Cyfraith Sharia