BYW YN TRUE SWANSEA
Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio mewn partneriaeth â true Student i gynnig llety premiwm o safon sydd â golygfeydd godidog dros afon Tawe.
Ceir ystafelloedd en suite mewn fflatiau o 5 neu 6 a rennir neu ystafelloedd stiwdio preifat sydd â chegin fach ac en suite moethus
- Mae'r holl ystafelloedd yn cynnwys: Gwely dwbl maint llawn | ystafell ymolchi en suite | teledu
- Mae’r cyfleusterau'n cynnwys: Sinema | Parth Gwyliau | Campfa UTime Fitness | Mannau cymdeithasol
- Cysylltiadau Trafnidiaeth Da: Ceir gwasanaethau bws uniongyrchol rheolaidd rhwng y ddau gampws; tua 30 munud o Gampws Parc Singleton a 15 munud o Gampws y Bae ar y bws.
Ydych chi’n byw gartref? Rhowch gynnig ar fyw mewn neuaddau am un tymor gyda’n cynnig arbennig
Dydych chi ddim yn barod i ymrwymo i flwyddyn lawn mewn llety myfyrwyr? Manteisiwch ar ein contract arbennig am 13 wythnos rhwng mis Medi a Rhagfyr. Dyma’ch cyfle i brofi bywyd campws anhygoel Prifysgol Abertawe, cwrdd â phobl newydd, a mwynhau popeth sydd gan y brifysgol i'w gynnig.
Mae’r prisiau’n £150 yr wythnos ar Gampws y Bae a true Swansea (Canol y Ddinas).
Gwnewch gais nawr
Sylwer: Mae’r cynnig hwn dim ond ar gael i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am lety ar ôl 5 Medi. Gweler telerau ac amodau.
Ystafell en suite
Mae fflatiau yn true Swansea yn cynnwys pum neu chwe ystafell wely en suite, gan rannu cegin gymunedol.
- Gwely otoman dwbl a matres foethus
- Cwpwrdd dillad, droriau, silffoedd, cypyrddau, drych, lle storio a theledu
- Desg fawr, cadair ddesg a bwrdd pinnau
- Maint dros 17 metr sgwâr
- Mae'r gegin gymunedol yn cynnwys: Ardal eistedd sydd â theledu, oergell/rhewgell fawr, ffwrn, hob a microdon. Mae'r gegin hefyd yn cynnwys llestri, cytleri, potiau, sosbenni ac offer ar gyfer pob myfyriwr.
£178 yr un yr wythnos.
Ystafell Stiwdio
Mae Flat Stiwdio true Abertawe yn cynnwys gwely dwbl, cegin fach ac ystafell ymolchi en suite.
- Gwely otoman dwbl a matres foethus
- Cwpwrdd dillad, cypyrddau, drych, lle storio a theledu
- Desg fawr, cadair ddesg a bwrdd pinnau
- Cegin fach sydd â microdon/gril, hob, oergell/rhewgell, sinc a lle storio
- Maint dros 20 metr sgwâr
- Os hoffech chi fyw gyda’ch partner, gall y ddau ohonoch gael deiliadaeth ddeuol heb dalu mwy (sylwer bod yn rhaid i'r ddau denant fod yn fyfyrwyr amser llawn).
£189 yr un yr wythnos
Ystafell Stiwdio Hygyrch
Mae Stiwdios Hygyrch true Swansea yn cynnwys gwely dwbl, cegin fach ac ystafell ymolchi en suite.
- Gwely otoman dwbl a matres foethus
- Cwpwrdd dillad, droriau, silffoedd, cypyrddau, drych, lle storio a theledu
- Desg fawr, cadair ddesg a bwrdd pinnau
- Cegin fach hygyrch sydd â microdon/gril, hob, oergell/rhewgell, sinc a lle storio
- Ystafell wlyb hygyrch sydd â chordyn argyfwng
- Maint dros 21 metr sgwâr
£189 yr un yr wythnos