Os nad ydych yn gallu cerdded neu feicio i'n campysau, rydym yn eich annog i ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae cludiant cyhoeddus yn ffordd ddiogel, fforddiadwy a chynaliadwy o fynd hwnt ac yma.

Swansea University Student wearing bright flowery pink cardigan using the ticket machine on a bus

Rhwydwaith Uni Bws First Cymru

Mae'r rhwydwaith UniBus a ddarperir gan First Bus wedi cael ei ddylunio gan ystyried anghenion myfyrwyr Abertawe. Mae nifer o lwybrau UniBus a llwybrau eraill sy'n cysylltu ein campysau a'r prif ardaloedd i fyfyrwyr, yn ogystal ag amrywiaeth o docynnau a phrisiau i ddiwallu eich anghenion.

Gallwch ddod o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys sut i lawrlwytho ap defnyddiol First Bus, ar wefan First Bus - defnyddiwch y ddolen isod.

Wefan First Bus

Cludiant Cyhoeddus - Cwestiynau Cyffredin