Ysgoloriaethau mathemateg

Student in Library

am ein ysgoloriaethau adrannol

Mae Adran Mathemateg Prifysgol Abertawe yn bwriadu cynnig gwobrau / ysgoloriaethau Mathemateg sy'n werth hyd at gyfanswm o £3000 i fyfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau prifysgol ym mis 4 Medi 2026. Caiff y gwobrau eu dyfarnu ar sail arholiad cystadleuol, dwy awr a hanner . Dylai myfyrwyr allu sefyll yr arholiad yn eu hysgol neu goleg. Mae ceisiadau ar agor i fyfyrwyr cartref a thramor sydd wedi dewis un o gyrsiau israddedig yr Adran Fathemateg yn Abertawe fel un o'u dewisiadau UCAS.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd yr arholiad ysgoloriaeth ddychwelyd y ffurflen gais: ARHOLIAD YSGOLORIAETH MATHEMATEG 2026

Neu e-bostiwch: maths-scholarships@swansea.ac.uk 

Gallwch lawrlwytho papur arholiad 2025 yma: Arholiad 2025

Nodyn: Bydd y Brifysgol hefyd yn cynnig nifer o Fwrsariaethau Rhagoriaeth gwerth £3,000 i fyfyrwyr sy'n derbyn canlyniadau AAA yn eu Safon Uwch (Lefel A neu gyfwerth) a £2,000 i fyfyrwyr sy'n derbyn canlyniadau AAB yn eu Safon Uwch (Lefel A neu gyfwerth). Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/ysgoloriaethau/ysgoloriaethau-rhagoriaeth/

Enillydd Ysgoloriaeth 2024/2025

Harry Sadler

Harry Sadler, Coleg Cymunedol Ivybridge

Mae cael yr ysgoloriaeth hon wedi rhoi'r hyder roedd ei angen arna i i bontio o'r coleg i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe. Rydw i wedi ennill profiad a gwybodaeth o'r prawf ysgoloriaeth hwn a fydd yn fy helpu gyda chwestiynau heriol yn y dyfodol. Yn ystod yr ychydig wythnosau rydw i wedi bod yma, rydw i wedi mwynhau'n fawr diolch i'r adran a'r gymuned fathemateg gyfeillgar yn Abertawe.

Bailey Weng, Coleg Desborough, Maidenhead

Roedd gallu astudio drwy'r ysgoloriaeth mathemateg wedi rhoi profiad mwy clir a hyderus i mi na chredais yn flaenorol.

Fel person sydd â diffyg hyder cyffredinol, mae llwyddo yn yr arholiad wedi caniatáu i mi fynegi fy angerdd gwirioneddol am y pwnc; rhywbeth na fydda i'n edifarhau. Wrth i mi ymchwilio'n ddyfnach i fyd mathemateg, mae'r cymorth ariannol ac addysgol gan y tîm yn yr Adran Fathemateg heb ei os.

Dyma rywbeth y byddwn yn ei gofio ar ôl fy nghyfnod yn Abertawe a byddwn yn argymell yr adran yn fawr i unrhyw un sy'n dymuno dilyn y rhaglen hon.