Bydd astudio Seicoleg yn Abertawe yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd, ac ymddygiad, gan agor drysau i ystod eang o gyfleoedd ar gyfer dysgu parhaus a gyrfaoedd boddhaus.
Mae astudio’r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy’n sail i weithgareddau megis meddwl, rhesymu, cof ac iaith, yn ein galluogi i ddysgu am effeithiau anaf i’r ymennydd ac archwilio ffyrdd o wella ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Gyda chyfleoedd i gyfuno'ch astudiaethau â throseddeg, addysg neu gymdeithaseg, ynghyd ag ystod eang o fodiwlau dewisol, gallwch deilwra'ch astudiaethau i'ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfa, neu'ch uchelgeisiau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig.
Fel yr esbonia Vismaya Kulkarni, sy'n astudio MSc Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl:
“Fy hoff beth am fy nghwrs yw’r modd y caiff y modiwlau eu categoreiddio, gyda modiwlau cyfan wedi’u neilltuo ar gyfer gwahanol anhwylderau a therapïau. Rwyf wir yn mwynhau dysgu am bob un ohonynt yn y ffordd fwyaf manwl bosibl. Mae fy nghwrs wedi fy ngwthio i fynd y tu hwnt i’r hyn rydw i wedi’i ddysgu’n ddamcaniaethol a chymhwyso’r wybodaeth yn ymarferol. Mae hefyd wedi fy helpu i ennill a datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel amynedd a chysondeb.”
Mae yna hefyd opsiwn i uwchraddio i raddau gyda Blwyddyn Dramor lle byddwch chi'n treulio'ch trydedd flwyddyn yn ehangu eich sgiliau a'ch profiad yn un o'n prifysgolion partner yn Awstralia, Canada, yr Almaen, Hong Kong, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Gwlad Pwyl a'r Unol Daleithiau.
Astudiodd Kate Miller, myfyrwraig BSc Seicoleg dramor yn Texas: “Roeddwn i wir yn caru dinas Austin. Roedd cymaint i'w wneud yno ac roedd y naws yn hapus ac yn wych. Y peth gorau am fy mhrofiad o astudio dramor oedd y teimlad o fod yn gwbl annibynnol. Roedd rhywbeth am fod mewn lle newydd, filltiroedd i ffwrdd o'ch parth cysurus a oedd yn rhoi boddhad mawr.”