Addysg, MA / PGDip / PGCert

Gwella'ch gyrfa mewn ymarfer, polisi ac ymchwil addysg

myfrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd MA mewn Addysg yn galluogi myfyrwyr i ddadansoddi'r cysylltiadau rhwng polisi ac addysgeg, a myfyrio ar athroniaethau sylfaenol addysg er mwyn gwella eu harfer proffesiynol eu hunain.

Mae'r rhaglen yn hyblyg i ganiatáu i weithwyr proffesiynol ar wahanol gamau o'u gyrfa ddatblygu eu cymhwysedd proffesiynol a'u diddordebau mewn addysg ymhellach.

Byddwch yn dysgu sut i ymgymryd â gwaith ymchwil addysgol a'i ddefnyddio, myfyrio ar eich ymarfer eich hun, hysbysu a gwella'r ffordd rydych chi'n gweithio, a chyfrannu at hyrwyddo gwybodaeth yn y sector.

Pam Addysg yn Abertawe?

Wedi’ch lleoli yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ar ein campws godidog ym Mharc Singleton, byddwch yn astudio mewn rhaglen sydd wedi’i dylunio i hyrwyddo gweithgarwch ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol.

Mae hyfforddiant ôl-raddedig ar gael er mwyn gwella datblygiad academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol.

Eich Profiad Addysg

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau 20-credyd dewisol cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi yn ystod ail hanner y cwrs.

Mae modiwlau amrywiol yn cynnwys Dulliau Ymchwil ym myd Addysg, Anghenion Dysgu Ychwanegol, Addysg ac Ymarfer Digidol, Arwain a Rheoli ym Myd Addysg a Chwricwlwm, Addysgeg ac Asesu ac Addysg.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg

Os ydych yn athro, yn ddarlithydd, yn arweinydd addysgol, yn rheolwr neu'n dyheu am gael gyrfa mewn addysg, bydd yr MA yn rhoi mewnwelediad i chi o'r tueddiadau a'r ymchwil ddiweddaraf, a sut mae'r rhain yn effeithio ar bolisi ac ymarfer.

Mae polisi ac ymarfer ym myd addysg yn gymhleth ac mae'n datblygu drwy’r amser. Er mwyn i chi weithio yn y sector addysg, felly, mae angen i chi feistroli casgliad cymhleth o sgiliau i dywys, ysgogi a hwyluso dysgu. Lluniwyd y rhaglen hon i'ch galluogi i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch i addasu a ffynnu mewn sector sydd mor ddeinamig.

Modiwlau

Mae myfyrwyr sydd yn dechrau ym mis Medi neu Ionawr yn astudio’r run modiwlau craidd fel rhan o’r rhaglen. Mae dyddiadau Ionawr i’w cadarnhau.

Byddwch yn astudio nifer benodol o fodiwlau 20-credyd cyn cyflawni prosiect traethawd hir 60-credyd o'ch dewis chi.