Addysg (Cenedlaethol), MA

Rhaglen drawsnewidiol ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru

myfyriwr

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MA Addysg (Cymru) cenedlaethol yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr. Mae'r byd addysg yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru-yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol.

Caiff darpar fyfyrwyr eu hannog i gysylltu â Siôn Owen

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin Derbyn Myfyrwyr i wybod sut i gyflwyno cais ar gyfer y cwrs gradd MA Addysg (Cymru).

Pam Addysg (Cenedlaethol) yn Abertawe?

Lleolir yr adran ar ein campws godidog ym Mharc Singleton, sef parcir â golygfa dros Fae Abertawe ar drothwy Penrhyn Gŵyr, byddwch yn astudio rhaglen a gynlluniwyd i hyrwyddo gweithgaredd ymchwil unigol a chydweithredol o safon ryngwladol.

Mae hyfforddiant ôl-raddedig ar gael er mwyn gwella datblygiad academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol.

Eich Profiad Addysg (Cenedlaethol)

Mae'r cwrs yn 3 blynedd yn rhan-amser. Nid oes opsiwn amser llawn.

Mae’r rhaglen yn cynnwys 200 awr o astudio fesul modiwl 20 credyd, a bydd 22 ohonynt yn oriau cyswllt. Bydd dysgu yn gyfuniad o ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd y gweithgareddau'n gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau unigol.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn ymuno â myfyrwyr ar yr un cwrs mewn 6 SAU arall. Bydd cefnogaeth cymar-i-gymar yn cael ei chynnal ar Basport Dysgu Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg, ochr yn ochr â holl wasanaethau a mecanweithiau cymorth rheolaidd Prifysgol Abertawe.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg (Cenedlaethol)

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg sydd eisoes wedi cychwyn ar eu gyrfa.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

SAC

MA Addysg (Cymru) Cenedlaethol