Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth, MA

Meistrolwch set o sgiliau i arwain, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr

person

Trosolwg o'r Cwrs

Ymunwch â ni yn ein Noson Agored Rithwir am y rhaglen MA Addysg (Cymru) Genedlaethol, 17 Gorffennaf 5.30-6.00pm. Gallwch gwrdd â'r tîm a'n myfyrwyr yn ein sesiwn holi ac ateb fyw ar Zoom i ddarganfod mwy am astudio MA Addysg (Cymru) gyda Phrifysgol Abertawe! Cadwch eich lle yma

MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Mae arweinyddiaeth yn rhaglen drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr â diddordeb mewn arweinyddiaeth.

Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru'n newid yn gyflym. Rhaid meistroli set o sgiliau cymhleth i dywys, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr wrth addysgu, ond hefyd rhaid cael y gallu i ymholi ynghylch arfer proffesiynol er mwyn ei wella.

MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Y rhaglen arweinyddiaeth - sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - a bydd yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth am arweinyddiaeth a'u gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu harfer proffesiynol.

Caiff darpar fyfyrwyr eu hannog i gysylltu â Siôn Owen 

Gweler y Cwestiynau Cyffredin Derbyn am fanylion sut i gyflwyno cais am MA Addysgu (Cymru).

Pam Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth yn Abertawe?

Byddwch wedi'ch lleoli ar gampws hyfryd Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar ymyl Penrhyn Gŵyr, a byddwch yn astudio rhaglen sy'n hyrwyddo gweithgareddau ymchwil unigol ac ar y cyd o safon ryngwladol. Mae hyfforddiant ôl-raddedig ar gael er mwyn gwella datblygiad academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol.

Eich Profiad Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth

Cwrs 3 blynedd rhan-amser yw hwn. Ni cheir opsiwn amser llawn.

Mae'r rhaglen yn cynnwys 200 awr o astudio fesul modiwl 20 credyd, a bydd 22 ohonynt yn oriau cyswllt. Bydd dysgu'n gyfuniad o ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd gweithgareddau'n gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau unigol.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn ymuno â myfyrwyr ar yr un cwrs mewn 6 SAU arall.  Bydd cymorth cyfoedion a gynhelir gan y PLP CGA, ynghyd â'r holl wasanaethau a dulliau cymorth eraill ym Mhrifysgol Abertawe, a chyfres o ddiwrnodau Cynadleddau Cenedlaethol ar draws y flwyddyn academaidd, lle bydd yr holl fyfyrwyr ledled Cymru'n dod ynghyd i ddysgu a rhannu eu profiadau.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg sydd eisoes wedi cychwyn ar eu gyrfa.

Modiwlau

Bydd myfyrwyr yn dewis dau o'r tri modiwl arbenigol, a hefyd yn astudio'r modiwlau canlynol

  • Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
  • Traethawd estynedig (Arweinyddiaeth)

Modiwlau Arbenigol:

  • Arwain Newid Sefydliadol
  • Arwain Systemau Addysg ac ar eu traws
  • Arwain a Rheoli Gweithwyr Proffesiynol Addysg

 Aseiniadau gwaith cwrs yw'r holl asesiadau a byddant yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd pob modiwl. Mae aseiniadau wedi cael eu llunio i gyd-fynd â chyd-destunau ac amserlenni gwaith athrawon amser llawn, lle bynnag y bo'n bosib.

Gall myfyrwyr â chymwysterau addysgu priodol fod yn gymwys am 60 credyd o Ddysgu Blaenorol a Gydnabyddir ac ni fydd angen cwblhau'r modiwlau ym mlwyddyn 1.  I fyfyrwyr heb Ddysgu Blaenorol a Gydnabyddir perthnasol, bydd y modiwlau hyn yn orfodol (cysylltwch â'r adran am fwy o fanylion).