Chwarae Datblygiadol A Therapiwtig, MA / PGDip / PGCert

Ennill dealltwriaeth o sut mae plant yn dysgu ac yn datblygu trwy chwarae

students working together

Trosolwg o'r Cwrs

Datblygwch dealltwriaeth uwch am sut mae plant yn dysgu a datblygu trwy chwarae gyda'n gradd Meistr mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig.

Byddwch yn archwilio ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn chwarae ar draws ystod o gyd-destunau proffesiynol, gan gyfuno theori fanwl gyda phrofiad gwaith maes.

Mae hyn yn cynnwys sut mae'r amgylchedd a rhyngweithiadau cymdeithasol yn cefnogi repertoire sgiliau chwarae cynyddol plant, gyda phwyslais arbennig ar werth cynhenid ​​profiadau chwarae hunan gyfeiriol plant.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn mireinio sgiliau ymchwil a dadansoddol beirniadol a werthfawrogir gan gyflogwyr a datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol.

Pam Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig yn Abertawe?

Wedi'i leoli yn ein Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd, byddwch yn elwa o amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol, gyda llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau.

Mae gennym gysylltiadau cryf ag ystod o rwydweithiau ymchwil ac adrannau tebyg mewn prifysgolion yn Ewrop ac o gwmpas y byd, felly mae'ch dysgu yn cael ei lywio gan y datblygiadau polisi ac ymarfer diweddaraf.

Eich profiad Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig

Mae ein staff academaidd yn weithgar mewn ystod eang o feysydd ymchwil, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd polisi ac ymarfer cyfredol.

Byddwch yn ymuno â phrifysgol a oedd wedi ei henwi'n 'Brifysgol y Flwyddyn' ac yn ail orau 'Ol-raddedig' yng Ngwobrau What Uni Student Choice Awards 2019.

Gyrfaoedd mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig

Mae eich cymhwyster ôl-raddedig mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig yn agor ystod o gyfleoedd gyrfaol mewn sectorau, gan gynnwys:

  • Addysg
  • Cymorth rhyngwladol
  • Cynghori a gofal bugeiliol
  • Gwaith cymdeithasol
  • Gofal Iechyd
  • Chwarae gwaith
  • Timau trais yn y cartref
  • Gwasanaeth carchardai

Rydym hefyd yn cynnig goruchwyliaeth os ydych chi am barhau â'ch astudiaethau yn y maes yma ar lefel PhD.

Modiwlau

Byddwch yn dilyn cyfuniad o fodiwlau gorfodol a dewisol, yn dibynnu ar lefel y cymhwyster yr ydych yn ei astudio. Mae myfyrwyr meistr hefyd yn cwblhau traethawd hir.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn feirniadol yn archwilio mentrau polisi ac ymarfer ac yn ystyried ystod o ddulliau ymchwil.