Addysg (Cymru): Cwricwlwm, MA

Rhaglen drawsnewidiol ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru

Student in library.

Trosolwg o'r Cwrs

Ymunwch â ni yn ein Noson Agored Rithwir am y rhaglen MA Addysg (Cymru) Genedlaethol, 17 Gorffennaf 5.30-6.00pm. Gallwch gwrdd â'r tîm a'n myfyrwyr yn ein sesiwn holi ac ateb fyw ar Zoom i ddarganfod mwy am astudio MA Addysg (Cymru) gyda Phrifysgol Abertawe! Cadwch eich lle yma

Mae’r rhaglen Genedlaethol MA mewn Addysg (Cymru): Cwricwlwm yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr sydd â diddordeb yn y Cwricwlwm. Mae’r tirlun addysgol yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi ynghylch ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd y rhaglen Genedlaethol MA mewn Addysg (Cymru): Cwricwlwm, sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, trwy ymgysylltu’n uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod yr holl weithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i ymestyn eu gwybodaeth broffesiynol, ymgymryd ag ymchwil, a gwella’u hymarfer proffesiynol.

Anogir darpar-fyfyrwyr i gysylltu â Siôn Owen

Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin ar Dderbyn i gael manylion am sut i wneud cais ar gyfer y rhaglen MA mewn Addysg (Cymru).

Pam Abertawe?

Mae’r cwrs wedi’i leoli ar ein campws hardd ym Mharc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr. Byddwch yn astudio rhaglen sydd wedi’i chynllunio i hyrwyddo gweithgarwch ymchwil unigol ac ar y cyd, o safon ryngwladol. Mae hyfforddiant ôl-raddedig ar gael i ymestyn datblygiad academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol. Mae Prifysgol Abertawe yn safle 26 yn y DU am ansawdd ymchwil, ac yn safle 22 am effaith ymchwil (REF 2014-2021).

Eich profiad

Mae’r cwrs yn un rhan-amser, am 3 blynedd. Does dim opsiwn amser llawn. Mae’r rhaglen yn cynnwys 200 awr o astudio fesul modiwl 20 credyd, y bydd 22 o’r rhain yn oriau cyswllt. Bydd y dysgu yn gyfuniad o ddysgu ar-lein a dysgu wyneb yn wyneb. Bydd y gweithgareddau’n gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau unigol. Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn ymuno â myfyrwyr ar yr un cwrs mewn 6 SAU arall. Bydd cymorth rhwng cyfoedion yn cael ei roi ar PDP CGA, ochr yn ochr â holl wasanaethau a mecanweithiau cymorth rheolaidd Prifysgol Abertawe, a chyfres o ddiwrnodau Cynadleddau Cenedlaethol ar draws y flwyddyn academaidd, lle gall yr holl fyfyrwyr ledled Cymru ddod at ei gilydd i ddysgu a rhannu eu profiadau.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg (Cymru): Cwricwlwm

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol sydd eisoes wedi dechrau ar eu gyrfa.