Sgip i brif cynnwys
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  5. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Addysg ac Astudiaethau Plentyndod
  6. Addysg (Cymru): Ecwiti mewn Addysg, MA
  • Astudio
    • Astudio
      Students studying in Singleton Park campus library

      Dechreuwch eich taith yma

      Astudiwch gyda ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid i'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Prosbectws Israddedig
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cofrestrwch am Diweddariadau Ebost
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Storïau Myfyrwyr
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
    • Cydweithredwch â ni
      • Datblygu eich prosiectau
      • Manteisio ar wybodaeth ein hymgynghorwyr
      • Cyfleoedd Cyllid YDA
    • Recriwtio ein Doniau
      • Recriwtio ein Myfyrwyr a'n Graddedigion
      • Cwrdd â’n myfyrwyr
      • Hysbysebu eich swyddi gwag
    • Datblygu eich Gweithlu
      • Gweld ein cyrsiau
    • Defnyddio ein Gwasanaethau Masnachol
      • Gofyn am gymorth gyda phrosiect
      • Hysbysebu eich sefydliad
      • Dod yn gyflenwr
    • Llogi ein Cyfleusterau
      • Cael mynediad at ein cyfleusterau ymchwil
      • Cynnal digwyddiad
    • Gweithio gyda ni
      • Ymuno â’n rhwydwaith cydweithredol
      • Cysylltu â’n tîm ymgysylltu â busnesau
      • Cadw mewn cysylltiad
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  5. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Addysg ac Astudiaethau Plentyndod
  6. Addysg (Cymru): Ecwiti mewn Addysg, MA

Addysg (Cymru): Ecwiti mewn Addysg, MA

Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

  • Medi 2025

    Gwnewch Gais Nawr

Dewiswch Llawn Amser neu Ran Amser.

Dewiswch y math o gwrs

Dewiswch y dyddiad dechrau.

Cadwch Mewn Cysylltiad

Manylion Allweddol y Cwrs

MA 3 Blynedd Rhan Amser
Dull Astudio
Dysgu Cyfunol
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
SAC
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2025 £ 3,250

Rhaglen drawsnewidiol ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru

Students studying
  • Trosolwg
  • Rhagor
    • Related Pages
    • Back
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
    • Diwrnodau Agored
    • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
    • Ffioedd ac Ariannu
    • Cyrsiau Trosi
    • Sut i Wneud Cais
    • Rhaglenni Ymchwil
    • Llety
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Economeg
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Addysg ac Astudiaethau Plentyndod
        • MA Addysg (Cymru)
        • MA mewn Addysg
        • MA mewn Addysg (Cymru) Cwricwlwm
        • MA Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth
        • MA mewn Addysg (Cymru) Tegwch mewn Addysg
        • MA Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu Ychwanegol
        • TAR Uwchradd gyda SAC: Bioleg
        • TAR Uwchradd gyda SAC: Cemeg
        • TAR Uwchradd gyda SAC: Cyfrifiadureg
        • TAR Uwchradd gyda SAC: Dylunio a Thechnoleg
        • TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg
        • TAR Uwchradd gyda SAC: Ffiseg
        • TAR Uwchradd gyda SAC: ITM - Ffrangeg, Sbaeneg
        • TAR Uwchradd gyda SAC: Saesneg
        • TAR Uwchradd gyda SAC: Cymraeg
        • TAR Cynradd
        • TAR Uwchradd gyda SAC: Hanes
        • TAR Uwchradd gyda SAC: Daearyddiaeth
        • MA/PGDip/PGCert Astudiaethau Plentyndod
        • MA/PGDip/PGCert Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig
      • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
    • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r rhaglen Genedlaethol MA mewn Addysg (Cymru): Tegwch mewn Addysg yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr sydd â diddordeb mewn Tegwch mewn Addysg. Mae’r tirlun addysgol yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi ynghylch ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd y rhaglen Genedlaethol MA mewn Addysg (Cymru): Tegwch mewn Addysg, sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, trwy ymgysylltu’n uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn sicrhau bod yr holl weithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i ymestyn eu gwybodaeth broffesiynol, ymgymryd ag ymchwil, a gwella’u hymarfer proffesiynol.

Anogir darpar-fyfyrwyr i gysylltu â Mr Siôn Owen

Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin ar Dderbyn i gael manylion am sut i wneud cais ar gyfer y rhaglen MA mewn Addysg (Cymru).

Pam Abertawe?

Mae’r cwrs wedi’i leoli ar ein campws hardd ym Mharc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr. Byddwch yn astudio rhaglen sydd wedi’i chynllunio i hyrwyddo gweithgarwch ymchwil unigol ac ar y cyd, o safon ryngwladol. Mae hyfforddiant ôl-raddedig ar gael i ymestyn datblygiad academaidd a phroffesiynol, yn ogystal â rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol. Mae Prifysgol Abertawe yn safle 26 yn y DU am ansawdd ymchwil, ac yn safle 22 am effaith ymchwil (REF 2014-2021).

Eich profiad

Mae’r cwrs yn un rhan-amser, am 3 blynedd. Does dim opsiwn amser llawn. Mae’r rhaglen yn cynnwys 200 awr o astudio fesul modiwl 20 credyd, a bydd 22 o’r rhain yn oriau cyswllt. Bydd y dysgu yn gyfuniad o ddysgu ar-lein a dysgu wyneb yn wyneb. Bydd y gweithgareddau’n gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau unigol. Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn ymuno â myfyrwyr ar yr un cwrs mewn 6 SAU arall. Bydd cymorth rhwng cyfoedion yn cael ei roi ar PDP CGA, ochr yn ochr â holl wasanaethau a mecanweithiau cymorth rheolaidd Prifysgol Abertawe, a chyfres o ddiwrnodau Cynadleddau Cenedlaethol ar draws y flwyddyn academaidd, lle gall yr holl fyfyrwyr ledled Cymru ddod at ei gilydd i ddysgu a rhannu eu profiadau.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg (Cymru): Ecwiti mewn Addysg

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol sydd eisoes wedi dechrau ar eu gyrfa.

Gofynion Mynediad

· Rydych chi’n byw yng Nghymru.

· Rydych chi wedi derbyn addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth.

· Mae gennych chi statws athro cymwys (SAC) ac wedi cofrestru gyda CGA fel athro mewn ysgol, athro ymgynghorol mewn awdurdod lleol neu athro mewn lleoliad fel uned cyfeirio disgyblion (rhaid cynnal cofrestriad SAC a CGA trwy gydol y cwrs neu’r rhaglen) NEU fod yn ddarlithydd coleg ac wedi cofrestru gyda CGA (rhaid cynnal cofrestriad gyda CGA trwy gydol y cwrs) NEU yn cael eich cyflogi fel Cynorthwyydd Addysgu ac wedi cofrestru gyda CGA.

· Rydych yn cael eich cyflogi gan ysgol a gynhelir yng Nghymru / coleg yng Nghymru / awdurdod lleol yng Nghymru fel athro / darlithydd / athro ymgynghorol / Cynorthwyydd Addysgu NEU yn cael eich cyflogi gan ysgol annibynnol gofrestredig neu goleg arbenigol;

· Rydych chi’n cael eich cyflogi ar isafswm o 0.4 contract CALl. Gall hyn gynnwys athrawon cyflenwi / darlithwyr sydd ar gontractau hirdymor naill ai gydag Awdurdod Lleol, ysgol, coleg neu asiantaeth;

· Byddwch yn cael eich derbyn / cofrestru ar y rhaglen Meistr mewn Addysg benodol hon gan saith SAU y bartneriaeth, sef:

· Prifysgol Abertawe · Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

· Prifysgol Aberystwyth · Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

· Prifysgol Bangor · Prifysgol De Cymru

· Met Caerdydd

· Byddwch yn dilyn y Llwybr Tegwch mewn Addysg.

· Dylai ymgeiswyr gael y gymeradwyaeth a’r gefnogaeth ofynnol gan eu cyflogwr (ysgol, awdurdod lleol, lleoliad neu goleg) lle bo modd i ddilyn y Rhaglen Genedlaethol MA mewn Addysg.

· Pan fydd rhywun eisoes wedi ennill Gradd Meistr yn benodol i bwnc, mae’n gymwys o hyd i wneud cais am y cyllid tuag at y rhaglen hon.

· Nid yw unrhyw gymwysterau Meistr mewn Addysg eraill a gynigir gan y SAUau yn gymwys am y cyllid hwn.

I fod yn gymwys am gyllid Llywodraeth Cymru: Wrth dderbyn y cynnig grant hwn, mae’n ofynnol i ymgeiswyr barhau i weithio yng Nghymru, naill ai o fewn y system addysg a gynhelir neu’r sector addysg bellach am o leiaf 2 flynedd ar ôl cwblhau’r rhaglen. (Rhaid i ymgeiswyr sy’n derbyn y cyllid hwn beidio â gwneud cais am fwy o gymorth cyllid ôl-raddedig trwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.)

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Efallai bydd myfyrwyr â chymwysterau addysgu priodol yn gymwys am 60 credyd o Ddysgu Blaenorol Cydnabyddedig ac ni fydd angen iddynt gwblhau’r modiwlau ym mlwyddyn 1. Ar gyfer myfyrwyr heb Ddysgu Blaenorol Cydnabyddedig perthnasol, bydd y modiwlau hyn yn orfodol:

Addysgeg ac Ymarfer (20 credyd)

Cydweithio ac Ymarfer Proffesiynol (20 credyd)

Ymarfer wedi’i Lywio gan Dystiolaeth (20 credyd)

Ym Mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn dilyn un modiwl craidd (20 credyd), Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch, ochr yn ochr ag unrhyw 2 fodiwl arbenigol dewisol (pob un o’r 20 credyd):

Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles Tegwch ac Amrywiaeth Ymateb i Effeithiau Tlodi ac Anfantais mewn Addysg.

Bydd Blwyddyn 3 yn cynnwys Traethawd 60 credyd 200 awr o astudio i bob modiwl 20 credyd, y bydd 22 o’r rhain yn oriau cyswllt. Bydd dysgu yn gyfuniad o ddysgu ar-lein a dysgu wyneb yn wyneb. Bydd y gweithgareddau yn gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithgareddau grŵp a gweithgareddau unigol. 

Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn ymuno â myfyrwyr ar yr un cwrs mewn 6 SAU arall.

Bydd cymorth rhwng cyfoedion yn cael ei gynnal ar PDP CGA, ochr yn ochr â holl wasanaethau a mecanweithiau cymorth rheolaidd Prifysgol Abertawe.

Darpariaeth Gymraeg

O leiaf 80 credyd

Mae'n bosib astudio 80 credyd neu fwy o'r cwrs ôl-raddedig hwn drwy gyfrwng y Gymraeg. Gelli astudio cyfuniad o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo'r cyfle a/neu gyflwyno dy draethawd estynedig yn y Gymraeg gydag arweiniad gan arbenigwr pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Academi Hywel Teifi yma i'th gefnogi trwy gydol dy amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Mynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mynediad at ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. Gelli di lawrlwytho'r ap am ddim drwy'r App Store a Google Play.
  • Cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
  • Gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
  • Yr opsiwn i lunio a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os wyt ti wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd dy waith yn cael ei asesu yn Gymraeg.
  • Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith.
  • Cefnogaeth un i un i wella dy sgiliau Cymraeg academaidd.
  • Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o dy allu Cymraeg i gyflogwyr y dyfodol.
  • Aelodaeth o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cer i'r dudalen Mae Gen i Hawl am wybodaeth bellach am hawliau myfyrwyr.

Bydd parhau i astudio trwy'r Gymraeg yn:

  • ddatblygiad naturiol i ti os wyt ti wedi astudio trwy'r Gymraeg ar lefel israddedig.
  • ffordd o sicrhau dy gyfle i gael yr addysg orau.
  • ffordd o dderbyn lefel uchel o gefnogaeth wrth i'r grwpiau astudio fod yn llai.
  • ychwanegiad gwerthfawr i dy CV a dy ddatblygiad gyrfaol.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Mae ein graddau yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr, sy’n meddu ar wybodaeth gyfoethog i’w throsglwyddo i’n myfyrwyr. Gallwch ddod i wybod mwy am ein harbenigedd academaidd ar ein tudalennau staff.

Ffioedd Dysgu

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2024 £ 3,250 N/A
Medi 2025 £ 3,250 N/A

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyllid i gefnogi cyfleoedd interniaeth i fyfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Bydd Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) yn eich cynorthwyo ym mhob cam o’ch taith gyrfa gan eich helpu i greu dyfodol disglair. Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfa yn cynnwys: Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gyda chyflogwyr, digwyddiadau teilwredig a ffeiriau gyrfaoedd. Cyngor ac arweiniad unigol gan Gynghorwyr Gyrfa sydd â chymwysterau proffesiynol, cymorth i ddod o hyd i swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli Mynediad at adnoddau gwybodaeth am ystod eang o destunau rheoli gyrfa Cyllid i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau’r Gymdeithas / Clwb Myfyrwyr. Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at ddwy flynedd ar ôl i chi raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ogystal â chymorth pwnc-benodol gan staff addysgu coleg a'ch tiwtor personol, mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un i un mewn meysydd fel:

Ysgrifennu academaidd

Mathemateg ac ystadegau

Meddwl yn feirniadol

Rheoli amser

Sgiliau digidol

Sgiliau cyflwyno

Cymryd nodiadau adolygu,

Technegau cofio a thechnegau arholi Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf). Yn ychwanegol, os oes gennych chi Anhawster Dysgu Penodol (ADP), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae Tiwtoriaid Arbenigol yn y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i gefnogi’ch dysgu, sy’n gweithio ochr yn ochr â’r Swyddfa Anableddau a’r Gwasanaeth Lles i gefnogi’ch holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Sut i wneud cais

Sylwer bod yn rhaid i'r ymgeiswyr gwblhau'r holl ffurflenni a restrir isod a'u cyflwyno gyda'u ffurflen gais ffurfiol:

Polisi RPL

Ffurflen Gais Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)

Ffurflen Gais Atodol

Myfyrwyr Enghreifftwyr

Dyddiadau Cau Ymgeisio

Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.

  • Trosolwg
  • Related Pages
  • Back
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan
  • Diwrnodau Agored
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Ffioedd ac Ariannu
  • Cyrsiau Trosi
  • Sut i Wneud Cais
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Llety
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg Awyrofod,Sifil, Drydanol a Mecanyddol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Biowyddorau, Daearyddiaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Fathemateg a Chyfrifiadureg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
  • Cyrsiau Ôlraddedig Ysgol Seicoleg
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Economeg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Addysg ac Astudiaethau Plentyndod
      • MA Addysg (Cymru)
      • MA mewn Addysg
      • MA mewn Addysg (Cymru) Cwricwlwm
      • MA Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth
      • MA mewn Addysg (Cymru) Tegwch mewn Addysg
      • MA Addysg (Cymru) Anghenion Dysgu Ychwanegol
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Bioleg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Cemeg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Cyfrifiadureg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Dylunio a Thechnoleg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Ffiseg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: ITM - Ffrangeg, Sbaeneg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Saesneg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Cymraeg
      • TAR Cynradd
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Hanes
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Daearyddiaeth
      • MA/PGDip/PGCert Astudiaethau Plentyndod
      • MA/PGDip/PGCert Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Llwybr carlam i fyfyrwyr presennol
Ymgeisio

Cwestiynau Cyffredin am Dderbyn Myfyrwyr

Sut rydw i’n cyflwyno cais?

Dylech chi gyflwyno cais yn uniongyrchol i'ch sefydliad dewis cyntaf. Mae manylion ar gael yn: Dolen i'r brif dudalen a 2 lwybr.

Ar gyfer pwy y mae'r rhaglen hon?

Mae'r MA  Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) a'r llwybrau Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arweinyddiaeth arbenigol yn rhaglenni sydd wir yn drawsnewidiol ac yn arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch arweinwyr. Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru'n newid yn gyflym. Rhaid meistroli set o sgiliau cymhleth i dywys, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr wrth addysgu, ond hefyd rhaid cael y gallu i ymholi ynghylch arfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA  Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) - sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu harfer proffesiynol.

Pa lwybrau arbenigol sydd yn MA  Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)?

MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn rhaglen drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr sydd â diddordeb mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru'n newid yn gyflym. Rhaid meistroli set o sgiliau cymhleth i dywys, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr wrth addysgu, ond hefyd rhaid cael y gallu i ymholi ynghylch arfer proffesiynol er mwyn ei wella.

Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): rhaglen Anghenion Dysgu Ychwanegol - sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu arfer proffesiynol ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'r MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth yn rhaglen drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr â diddordeb mewn arweinyddiaeth. 

Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru'n newid yn gyflym. Rhaid meistroli set o sgiliau cymhleth i dywys, ysgogi a hwyluso dysgu myfyrwyr wrth addysgu, ond hefyd rhaid cael y gallu i ymholi ynghylch arfer proffesiynol er mwyn ei wella.

Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth - sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu harweinyddiaeth a'u gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu harfer proffesiynol.

Beth yw'r gofynion mynediad?

  • Meddu ar addysg at lefel gradd neu gyfwerth;
  • Meddu ar statws athro cymwys (SAC) ac wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel athro mewn ysgol, athro ymgynghorol mewn awdurdod lleol neu athro mewn lleoliad megis uned cyfeirio disgyblion (rhaid cynnal cofrestriad gyda QTS neu CGA drwy gydol y rhaglen) NEU'N ddarlithydd coleg ac wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (rhaid i'r cofrestriad gyda'r CGA gael ei gynnal drwy gydol y cwrs)
  • Yn gyflogedig gan ysgol a gynhelir yng Nghymru/coleg yng Nghymru/awdurdod lleol yng Nghymru fel athro/darlithydd/athro ymgynghorol NEU wedi'ch cyflogi gan ysgol annibynnol gofrestredig neu goleg arbenigol;
  • Yn gyflogedig ar o leiaf gontractau 0.4 CALl, gall hyn gynnwys athrawon cyflenwi/darlithwyr sydd ar gontractau hirdymor naill ai gydag awdurdod lleol, ysgol, coleg neu asiantaeth;
  • Wedi'ch derbyn/cofrestru ar y radd Meistr mewn Addysg benodol hon a gynigir gan y saith partneriaeth sefydliad addysg uwch isod:
    • Prifysgol Abertawe
    • Prifysgol Aberystwyth
    • Prifysgol Bangor
    • Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
    • Prifysgol De Cymru
    • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
    • Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Dylai ymgeiswyr, lle bynnag y bo'n bosib, gael y cymeradwyaethau a'r gefnogaeth gofynnol gan eu cyflogwyr (ysgol, awdurdod lleol, lleoliad neu goleg) i ymgymryd â'r radd Meistr Genedlaethol mewn Addysg.
  • Pan fydd rhywun eisoes wedi cyflawni gradd Meistr mewn pwnc penodol, gallant gyflwyno cais o hyd am y cyllid ar gyfer y rhaglen hon.
  • Nid oes cymwysterau graddau Meistr mewn Addysg eraill a gynigir gan sefydliadau addysg uwch yn gymwys am y cyllid hwn.

Ydy'r cwrs yn gofyn am ddosbarthiad gradd penodol ar lefel israddedig?

Nac ydy - ond rhaid bod ymgeiswyr yn meddu ar Statws Athro Cymwys ac yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a nodir.

Beth yw Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol?

Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol yw'r broses o gydnabod dysgu a wneir gan unigolyn cyn iddo gychwyn ar yr MA. At ddibenion y rhaglen hon, mae'r term yn cynnwys y canlynol: a) Trosglwyddo Credydau - Lle dyfarnwyd y credydau neu'r cymhwyster gan sefydliad addysg uwch yn y DU fel rhan o gymhwyster ffurfiol; b) Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol trwy Brofiad - lle mae dysgu a gyflawnir drwy brofiad yn cael ei asesu a'i gydnabod. (Gweler dogfennau newydd ar Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol).

Allaf i gael fy eithrio o ran o'r MA h.y. wedi fy nerbyn drwy Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol?

Efallai y bydd modd eich derbyn i'r MA ar sail eich bri yn y maes ar sail modiwlau lefel M a astudiwyd yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig yn ystod y pum mlynedd flaenorol. Dylech ddefnyddio'r ffurflen gais safonol i ymgeisio, ond dylech sicrhau eich bod yn cynnwys eich trawsgrifiadau academaidd blaenorol yn ogystal â chopi o faes llafur y cwrs gan roi manylion am y deilliannau dysgu a'r pwysoliadau credyd.

Pa ddogfennau y mae'n rhaid i mi eu hanfon atoch?

Datganiad Personol neu CV (mae angen yr ail os ydych chi'n cyflwyno cais am Achrediad Dysgu drwy Brofiad; Os ydych chi'n cyflwyno cais am Drosglwyddo Credydau, bydd angen i chi gynnwys eich Trawsgrifiad Academaidd SAC gan restru'ch modiwlau; Ffurflen gais atodol am gyllid os ydych chi'n cyflwyno cais am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys pynciau a astudiwyd a graddau a gyflawnwyd.

Sut rydw i'n cyflwyno cais am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol?

Mae Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (y cyfeirir ato'n aml fel RPL) yn galluogi Prifysgolion i wneud eithriadau ar gyfer modiwlau neu feysydd pwnc y mae ymgeiswyr eisoes wedi'u 'cwblhau', naill ai drwy addysg ffurfiol neu drwy brofiad a datblygiad proffesiynol. Felly ni ofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ailadrodd neu gwblhau dysgu y cydnabyddir eu bod nhw eisoes wedi'i gyflawni.

Mae MA  Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) wedi'i dylunio i gydnabod y bydd eisoes gan lawer o fyfyrwyr gymwysterau a/neu brofiad proffesiynol sy'n golygu y gallant ddangos eu bod wedi cyflawni modiwlau blwyddyn 1 y rhaglen, felly nad oes rhaid iddynt ailadrodd cynnwys. Ni fydd Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol yn berthnasol i fodiwlau blwyddyn 2 neu'r Traethawd Estynedig ac mae'n rhaid i'r holl fyfyrwyr gwblhau'r rhain.

O ganlyniad, gall ymgeiswyr sydd â chymwysterau cydnabyddedig (e.e. TAR) a/neu brofiad proffesiynol sylweddol gyflwyno cais i'r rhain gael eu cydnabod yn ffurfiol yn lle rhai neu'r holl fodiwlau sy'n werth 60 o gredydau ym mlwyddyn 1 y rhaglen. I fod yn gymwys i gael eu hystyried, rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth academaidd a/neu broffesiynol priodol i ddangos eu bod yn bodloni'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y modiwlau, a restrir ar y Ffurflen Gais RPL.

Os oes gennych chi radd TAR sy'n werth 60 o gredydau ar lefel 7 FHEQ (Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch) a gyflawnwyd fel arfer yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, nid oes rhaid i chi fapio'ch dysgu proffesiynol i'r Deilliannau Dysgu ar y Ffurflen Gais RPL a dylech chi gyflwyno eich trawsgrifiad (os nad oes un o'r rhain gennych chi, dylech chi allu gofyn am un newydd gan eich Prifysgol).

Os oes gennych chi SAC heb TAR, neu os cyflawnwyd eich TAR mwy na 5 mlynedd yn ôl, neu os yw eich TAR yn cynnwys llai na 60 o gredydau ar lefel 7, bydd angen i chi gyflwyno eich trawsgrifiad ar gyfer elfennau o gredyd rydych chi am eu cynnwys, a bydd angen i chi fapio eich dysgu proffesiynol a/neu drwy brofiad i'r Deilliannau Dysgu ar y Ffurflen Gais RPL a rhaid i'ch dysgu fod yn werth y credydau sy'n weddill (e.e. os yw eich TAR yn rhoi 40 o gredydau ar lefel 7 i chi, bydd angen i chi ddangos dysgu drwy brofiad sy'n werth 20 o gredydau'n unig). Dylech chi fapio i'r modiwl(au) sy'n cynnwys y Deilliannau Dysgu sy'n arddangos orau eich dysgu proffesiynol a/neu drwy brofiad yn eich barn chi.

Lle gallwch chi ddarparu tystiolaeth ar gyfer rhai o'r Deilliannau Dysgu'n unig, byddwch chi'n cofrestru ar gyfer modiwlau ym mlwyddyn 1 sy'n angenrheidiol ar gyfer cwblhau'r Deilliannau Dysgu y mae eu hangen i symud ymlaen i ail flwyddyn y rhaglen.

Arholiadau myfyrwyr:

  • Ffurflen Atodol Enghreifftiol i Fyfyrwyr

Beth yw'r 'Ffurflen Gais Atodol'?

Bydd y ffurflen hon yn manylu ar ddewis modiwlau astudio cychwynnol ac a oes rhai ohonynt yn gysylltiedig â'r llwybrau ADY neu Arweinyddiaeth arbenigol. Gellir hefyd ddarparu yma ddatganiad cefnogi gan eich ysgol er mwyn dangos ei hymrwymiad i chi astudio ar y cwrs.

Oes angen TGAU yn y Gymraeg arnaf?

Nid oes angen TGAU yn y Gymraeg arnoch chi i gyflwyno cais am y rhaglen hon.

Sut gallaf gofrestru ar gyfer Diwrnod Agored Rhithwir?

Edrychwch ar wefannau sefydliadau unigol.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon?

Gweler y tudalennau cwrs.

Oes angen i mi ddarparu gwiriad manwl gan y gwasanaeth datgelu a gwahardd sy'n benodol i'r rhaglen?

Nac oes.

Rwy'n athro yn Lloegr/yr Alban/Gogledd Iwerddon - allaf i gyflwyno cais ar gyfer y rhaglen o hyd?

Gallwch, ond ni fyddwch chi'n gymwys am gyllid.

Rwy'n athro o'r UE/Dramor - allaf i gyflwyno cais ar gyfer y rhaglen o hyd?

Na allwch.

Cwestiynau Cyffredin am Gyllid

Sut ydw i'n cyflwyno cais am gyllid?

Dilynwch y broses o gyflwyno cais ar gyfer y Rhaglen, bydd panel ariannu yn penderfynu a ydych chi'n gymwys am gyllid.

Beth yw'r broses am gyflwyno cais am gyllid ar gyfer MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), Anghenion Dysgu Ychwanegol MA  Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) ac Arweinyddiaeth MA  Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)?

Mae un set o feini prawf cyllido ar gyfer yr MA Cenedlaethol a’r holl lwybrau ar gyfer dechrau yn 2022. Dylai ymgeiswyr o ysgolion annibynnol a’r Rhanbarthau gyfeirio at feini prawf cyllido llwybr ADY ac Arweinyddiaeth yn unig.

Ydw i'n gymwys am gyllid?

Gweler y meini prawf cyllido.

Mae'r meini prawf cymhwysedd i dderbyn cyllid yn nodi bod rhaid i mi fod rhwng blwyddyn 3 a blwyddyn 6  ymarfer ar ddechrau'r cwrs, beth mae hyn yn ei olygu?

Golyga hyn fod rhaid i chi fod rhwng blwyddyn 3 a blwyddyn 6  ymarfer addysgu ar ôl i chi gwblhau eich cyfnod sefydlu ANG yn llwyddiannus.

Pam mae'r cyllid ar gael ar gyfer athrawon rhwng blynyddoedd 3 a 6 ymarfer yn unig?

Cynigir y cyllid ar gyfer y rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru fel ran o Becyn Athrawon Gyrfa Gynnar.

Nid wyf rhwng blynyddoedd 3 a 6 ymarfer - beth yw fy opsiynau o ran cyllid?

Ar gyfer Lleoedd mewn Ysgolion Partner Addysg Gychwynnol i Athrawon, rhaid bod ymgeiswyr yn dod o ysgol bartner. Cysylltwch â rheolwr y rhaglen am ragor o wybodaeth.

Ar ôl i mi gwblhau fy nghyfnod sefydlu ANG, treuliais i gyfnod o amser yn gweithio dramor/cymerais i seibiant o'm gyrfa, ydy hyn yn cyfrif?

Nid ystyrir amser a dreulir fel athro y tu allan i'r DU neu seibiant o'ch gyrfa fel blynyddoedd ymarfer.

A oes rhaid i mi gynnal fy nghofrestriad gyda'r CGA ar gyfer hyd y rhaglen?

Oes, dylech chi fod wedi cofrestru gyda'r CGA fel athro neu athrawes (a rhaid cynnal hwn drwy gydol hyd y rhaglen).

Oes rhaid i mi gael contract addysgu ar gyfer isafswm cyfnod o amser, e.e. tymor/blwyddyn academaidd? Beth sy'n digwydd os bydd fy nghontract yn dod i ben yn ystod y rhaglen?

Oes, cyhyd â'ch bod wedi'ch cyflogi ar gontract sydd o leiaf 0.4 CALl, gall hyn gynnwys athrawon/darlithwyr cyflenwi sydd ar gontractau hirdymor naill ai gydag Awdurdod Lleol, ysgol, coleg neu asiantaeth.

Rwy'n gweithio fel athro mewn nifer o ysgolion ac mae fy nghontractau'n fwy na 0.4 CALl. Ydw i'n gymwys i dderbyn cyllid?

Ydych, cyhyd â bod eich contractau'n cynnwys 0.4 CALl neu fwy, rydych chi'n gymwys i wneud cais am gyllid.

Rwy'n athro rhan-amser a/neu'n athro cyflenwi, allaf i gyflwyno cais am gyllid?

Gallwch, cyhyd â bod eich contractau'n cynnwys 0.4 CALl neu fwy, rydych chi'n gymwys i wneud cais am gyllid.

Rwyf wedi cofrestru gyda'r CGA ond nid o dan categori athro ysgol, ydw i'n gymwys o hyd i gyflwyno cais am gyllid?

Nac ydych, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda'r CGA yng nghategori athro ysgol i fod yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid.

Oes rhaid i mi ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl i mi gwblhau'r MA mewn Addysg?

Wrth dderbyn y cynnig hwn am grant, gofynnir i athrawon barhau i weithio yng Nghymru, o fewn y system addysg a gynhelir am o leiaf ddwy flynedd ar ôl iddynt gwblhau'r rhaglen.

Hoffwn i ariannu fy hun, faint yw’r ffïoedd?

Os ydych am hunan-ariannu eich cwrs, siaradwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, gall y ffi fod yn wahanol i’r hyn a nodir ar hyn o bryd ar gyfer myfyrwyr sy’n hunan-ariannu.

Gofyniad preswyliad (cyn astudio)

Er mwyn i chi fod yn gymwys i dderbyn cyllid, rhaid eich bod chi'n byw yng Nghymru (ni nodir terfyn ar amser).

Rwyf eisoes wedi ymgymryd ag astudiaethau ar lefel gradd Meistr, ydw i'n gymwys i dderbyn cyllid ar gyfer y rhaglen hon?

Os ydych chi eisoes wedi astudio rhaglen Meistr sy'n benodol i'r pwnc yna byddwch chi'n gymwys o hyd i gyflwyno cais am gyllid (gan ddibynnu ar fodloni'r holl feini prawf eraill). Sylwer os ydych chi eisoes wedi ymgymryd â gradd MEd a ariennir yna ni fyddwch chi'n gymwys i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer yr MA Cenedlaethol.

Roedd fy nghais am gyllid yn aflwyddiannus, sut gallaf apelio yn erbyn y penderfyniad?

Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad Panel Dyfarnu Cyllid yr MA  Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) gysylltu â Chadeirydd y Panel yn y lle cyntaf.

Pwy sy'n penderfynu ar ddyrannu cyllid?

Ar ôl iddo dderbyn eich cais, bydd y tîm Derbyn Myfyrwyr yn y sefydliad o'ch dewis yn sicrhau eich bod chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Yna bydd Panel Dyfarnu Cyllid yr MA  Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn asesu'r holl geisiadau cymwys i benderfynu ar y canlyniad a dyfarnu cyllid i'r sawl sy'n llwyddiannus. Mae'r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob Prifysgol Bartner ac mae'n adrodd i'r Bwrdd Rheoli Cenedlaethol (sy'n cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru), i sicrhau atebolrwydd a goruchwylio amlwg.

Sawl lle wedi'i ariannu sydd ar gael?

Ceir 500 o leoedd wedi'u hariannu ar draws partneriaeth yr MA  Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru).

Sawl lle wedi'i ariannu sydd ar gael ar y llwybrau Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arweinyddiaeth arbenigol?

Ceir 30 o leoedd ar gyfer y llwybr Anghenion Dysgu Ychwanegol a 50 o leoedd ar gyfer y llwybr Arweinyddiaeth, nid ychwanegir y rhain at y 500 o leoedd ond byddant yn ffurfio rhan o'r garfan hon sy'n bodloni'r meini prawf penodol.

Ydw i'n gymwys am fenthyciad myfyriwr?

Nac ydych.

Rwy'n gweithio mewn ysgol bartner Addysg Gychwynnol i Athrawon ym Mhrifysgol X, a oes unrhyw gyllid sy'n benodol i fi?

Mae cyllid partner Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer myfyrwyr mewn Ysgolion Partner Addysg Gychwynnol i Athrawon sy'n gysylltiedig â Phrifysgol benodol yn unig. Rhaid bod ymgeiswyr yn cefnogi myfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

Two students walking around campus

Prosbectws ol-raddedig

Prosbectws ol-raddedig

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur
Ymwadiad Rhaglen
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342