Bydd y TAR Uwchradd gyda Statws Athro Cymwysedig ym Mhrifysgol Abertawe'n eich paratoi i fodloni'r Safonau Dysgu ac Arweinyddiaeth Proffesiynol newydd i Gymru (ar lefel sy'n briodol ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso), gan eich galluogi i fod yn athro llawn ysbrydoliaeth, cymwys a phroffesiynol mewn Addysg Uwchradd.
Byddwch yn creu portffolio electronig o dystiolaeth, a elwir yn Basport Dysgu Proffesiynol, a fydd yn nodi eich cynnydd a'ch gallu yn erbyn pob un o'r Safonau Dysgu ac Arweinyddiaeth Proffesiynol. Bydd cyflwyno tystiolaeth lwyddiannus o fodloni'r holl Safonau, ynghyd â chwblhau asesiadau Lefel 7, yn arwain at gyflwyno argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg eich bod chi'n cael Statws Athro Cymwysedig.
Yn unol â gofynion y Llywodraeth, caiff y rhaglen ei datblygu a'i chyflwyno drwy gorff ysgolion-prifysgol ar y cyd; Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA). Mae'r Bartneriaeth hon yn rhannu rolau wrth ddatblygu, adolygu a chyflwyno ein rhaglen, gan gynnwys ei helfennau yn y brifysgol ac ar leoliad mewn ysgolion. Bydd staff ysgolion a'r Brifysgol yn cydweithio i'ch cefnogi chi, fel athro dan hyfforddiant, i symud ymlaen i gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus a chyflawni Statws Athro Cymwysedig.
Mae galw mawr am athrawon cyfrifiadureg cymwysedig ar draws y DU. I gydnabod hyn, mae PYPA wedi datblygu'r rhaglen TAR cyfrifiaduregUwchradd arloesol hon i roi hyder i chi, yn eich maes pwnc a'ch dealltwriaeth o sut i'w addysgu. Daw elfen bwnc-benodol y rhaglen o'r modiwl 'Ymarfer Myfyriol sy’n seiliedig ar Ymchwil' sydd yn seiliedig ar y pwnc o'ch dewis.
Caiff y rhaglen ei hategu gan ymchwil ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn dysgu sut i addysgu cyfrifiadureg mewn ffordd ystyrlon, ddiddorol a llawn hwyl, a hefyd sut i ddadansoddi eich datblygiad chi a datblygiad eich disgyblion.
PAM TYSTYSGRIF ÔL-RADDEDIG MEWN ADDYSG YN ABERTAWE?
Bydd Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe yn cynnig Addysg Gychwynnol Athrawon o safon a arweinir gan ymarferwyr ac ymchwil, i gyflwyno ei gweledigaeth o ddatblygu unigolion fel chi i fod yn ymarferwyr myfyriol a gwybodus, sy'n gallu cyfrannu'n sylweddol at ansawdd addysg yng Nghymru.
Bydd y TAR Uwchradd yn cynnig y cyfleoedd angenrheidiol i chi fynd i'r afael â'r holl Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, drwy brofiadau dysgu cyfoethog sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eich hyfedredd proffesiynol.
Bydd y rhaglen drwyadl hon yn eich herio'n academaidd ac yn broffesiynol. Nod y rhaglen yw datblygu eich dealltwriaeth feirniadol o natur cyfrifiadureg a'i lle yng nghwricwlwm yr ysgol. Byddwch yn cael eich annog i ymchwilio a phrofi eich ymagweddau eich hun at addysgu cyfrifiadureg i ddod o hyd i'r dulliau hynny sy'n gweithio orau i chi a'r disgyblion rydych yn eu haddysgu.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i drosglwyddo 60 o gredydau Lefel 7 a enillwyd ar y rhaglen hon fel Achrediad Dysgu Blaenorol, sy'n cyfrif tuag at gyflawni Cymhwyster Meistr Cenedlaethol mewn Addysg a gyflwynir ar y cyd gan brifysgolion ar draws Cymru.
Mae pob agwedd ar y cwrs wedi'i datblygu ar y cyd â PYPA a bydd yn cael ei chyflwyno, yn sicrhau ei hansawdd a'i hadolygu mewn partneriaeth, i atgyfnerthu'r cydweithrediad hwn drwy gydol y flwyddyn.
EICH PROFIAD TAR
Mae'r rhaglen yn cynnwys 60 niwrnod o fewnbwn gan y Brifysgol a 120 o ddiwrnodau lleoliad ysgol mewn dwy ysgol.
Cyn eich lleoliad, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiwn Micro Addysgu, lle byddwch yn cyflwyno gwers fer i'ch cyfoedion. Yn dilyn y sesiwn hon, byddwch yn cael adborth anffurfiol ar agweddau megis cyfathrebu, eglurder wrth esbonio, defnydd o adnoddau a phresenoldeb yn yr ystafell ddosbarth - gan osod y sylfeini am ymarfer myfyriol cyn dechrau yn yr ystafell ddosbarth.
Tra byddwch ar leoliad, cewch eich cefnogi'n helaeth drwy fframwaith cadarn sy'n integreiddio cymorth proffesiynol, academaidd a bugeiliol. Byddwch yn cael eich paru â mentor pwnc, a all gynnig arweiniad ac adborth adeiladol i gefnogi eich datblygiad. Mae staff y Brifysgol yn rhan weithgar drwy gydol eich lleoliad, gan gynnig arweiniad pwnc-benodol a chynnal arsylwadau ffurfiol, sy'n cael eu cynllunio'n ofalus i asesu eich cynnydd a chefnogi datblygiad eich ymarfer addysgu.
Mae diwrnodau Ymarfer a Theori'n cael eu cynnwys drwy gydol cyfnod y lleoliad cyntaf, gan gynnig amser i chi archwilio sut mae theori addysgol yn cysylltu ag ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Cynhelir y sesiynau hyn yn Ysgol Arweiniol Rhwydwaith pob myfyriwr ac maen nhw'n cael eu hwyluso gan Diwtor Arweiniol Rhwydwaith y Brifysgol a chydweithwyr yn yr ysgol, gan eich galluogi i rannu profiadau, trafod heriau a myfyrio ar eich cynnydd.
Nodwedd allweddol o'r broses gymorth yw defnyddio'r Pasbort Dysgu Proffesiynol, platfform ar-lein sy'n cofnodi eich taith ddysgu broffesiynol. Byddwch hefyd yn cofnodi cynlluniau gwersi a myfyrdodau, a byddwch yn cael adborth gan eich mentoriaid, sy'n cynnwys arsylwadau ffurfiol, cyfarfodydd â mentor a sgyrsiau proffesiynol strwythuredig.
Byddwch yn cael 35 awr o ddarpariaeth iaith Gymraeg yn ystod y cwrs i ddatblygu eich sgiliau iaith Ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, bydd llwybr cyfrwng Cymraeg, sy'n cynnwys lleoliadau, seminarau a diwrnodau Ymarfer a Theori Cymraeg, yn ogystal â'r opsiwn i gyflwyno aseiniadau a chael adborth gan diwtor yn y brifysgol sy'n siarad Cymraeg.
Mae'r rhaglen hon hefyd yn galluogi ymrwymiad cryf at addysg gynhwysol drwy ffocws cynhwysfawr ar Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy'n cyd-fynd â’r Côd ADY newydd i Gymru. Byddwch yn cael eich cefnogi i fod yn weithiwr proffesiynol ymatebol, sy'n gallu addasu eich gwaith addysgu i ddiwallu anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr.
CYFLEOEDD CYFLOGAETH TAR
Bydd cwblhau'r cwrs TAR hwn yn llwyddiannus yn arwain at gyflwyno argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg i chi gael Statws Athro Cymwysedig. Mae hwn yn gyfle i gael cyflogaeth fel Athro Newydd Gymhwyso mewn ysgolion.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth o gyrff allanol megis:
Undebau
Arweinwyr Ysgol
Cyngor y Gweithlu Addysg
Arweinwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon
Partneriaeth - corff addysgol ar y cyd sy'n cefnogi ysgolion yn Sir Gâr, Sir Benfro ac Abertawe
Cyd-bwyllgor Addysg Cymru
Mae'r ymgysylltiad hwn yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i fyfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys sesiynau dynodedig sy'n canolbwyntio ar y broses cyflwyno cais am swydd gan arweinwyr ysgol, ac yna cynhelir sesiynau mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar ddull cyfweliad, llythyrau cyflwyno cais a gwersi cyfweliad, gan gynnwys cynnal ffug gyfweliadau. Gall ymgysylltu â sefydliadau proffesiynol megis CBAC (y bwrdd arholi ar gyfer cymwysterau ysgol yng Nghymru) fod drwy sesiynau megis gweithdai rhanbarthol, sy’n galluogi myfyrwyr i gymryd rhan yn eu cymuned broffesiynol a gwneud cysylltiadau gwerthfawr.
Hefyd, byddwch yn cael cyfleoedd i ddatblygu ac ymestyn eich sgiliau cyflogadwyedd drwy nifer o gyfleoedd pellach. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno ymchwil i bartneriaid ysgol, cydweithwyr yn y brifysgol ac eraill yn y digwyddiad ymchwil blynyddol; cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda sefydliadau pwnc megis y Sefydliad Ffiseg; datblygu a rheoli gweithdai ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch, a chefnogi neu gyd-arwain teithiau ysgol, clybiau a dysgu yn yr awyr agored.
Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn cael swyddi mewn ysgolion uwchradd. Fel arfer, mae dros 90% o fyfyrwyr sy'n graddio wedi cael swydd erbyn y mis Medi ar ôl iddynt raddio. Mae nifer o fyfyrwyr yn dilyn cymwysterau pellach ym myd addysg ar ôl graddio, gyda rhai'n parhau i astudio yn Abertawe ar raglenni megis y rhaglen MA Genedlaethol, y gallwch ei hastudio law yn llaw â'ch rolau addysgu. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn penderfynu cael cyflogaeth y tu hwnt i'r sector ysgolion uwchradd. Y swyddi mwyaf cyffredin ar ôl graddio yw:
Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.
Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr y TAR Uwchradd gyflawni'r canlynol cyn cael eu derbyn i'r rhaglen:
Gradd anrhydedd gydag o leiaf 2:2 mewn pwnc perthnasol, neu bwnc cysylltiedig gydag o leiaf 50% o gynnwys pwnc perthnasol
Gradd C TGAU yn Saesneg/Gymraeg (bydd rhaid i fyfyrwyr sy'n cyflwyno cais ar gyfer y rhaglen Gymraeg feddu ar TGAU yn y Gymraeg)
Gradd C TGAU mewn Mathemateg
Mae’r Gradd C yn Saesneg/ Gymraeg a Mathemateg ar lefel TGAU yn ofyniad a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Caiff yr holl gyfweliadau eu cynnal mewn amgylchedd rhithwir (gan ddefnyddio Microsoft Teams) gydag arbenigwr pwnc TAR, drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl dymuniad yr ymgeisydd. Bydd y fformat yn cynnwys cyfweliad byr a thrafodaeth broffesiynol.
Bydd yr holl fyfyrwyr TAR yn cwblhau archwiliad Cymhwysedd Digidol wrth gofrestru a bydd hyfforddiant cymhwysedd digidol yn rhan o'u rhaglen astudio TAR.
Rhaid i'r holl ymgeiswyr fodloni gofynion Safonau Iechyd Addysg (Cymru) gan gadarnhau eu gallu corfforol ac iechyd er mwyn addysgu (Gweler yr adran Costau Ychwanegol).
Bydd yn rhaid i'r holl ymgeiswyr gael gwiriad manwl gan y GDG. Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi cael eu heithrio rhag addysgu neu weithio gyda phlant nac wedi'u cofrestru gyda'r GDG fel person sy'n anaddas i weithio gyda phlant neu bobl ifanc (Gweler yr adran Costau Ychwanegol).
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Nid yw cwblhau’r rhaglen TAR yn y Deyrnas Unedig yn rhoi statws ‘Caniatâd i Aros’ i weithio fel athro/athrawes yn y Deyrnas Unedig. Dylai ymgeiswyr ymgyfarwyddo â rheoliadau a gofynion Gwasanaeth Fisa a Mewnfudo’r Deyrnas Unedig sy’n berthnasol ar gyfer astudio ac ôl-astudio yn y Deyrnas Unedig.
Bydd llwyddo i gwblhau rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe’n arwain at (i) ddyfarnu Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ac (ii) argymhelliad ar gyfer Statws Athro Cymwysedig a chofrestriad gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru. Dylai ymgeiswyr ymgynghori â’r gwasanaeth addysg neu’r adran lywodraeth berthnasol er mwyn holi a fydd cwblhau cwrs TAR mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig yn caniatáu iddynt addysgu yn eu gwlad gartref neu mewn gwlad arall y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Fel arfer gofynnir i ymgeiswyr feddu ar sgôr gyffredinol prawf IELTS (neu gyfwerth) o 7.0 ac isafswm sgôr o 6.5 ym mhob elfen (ysgrifennu, darllen, siarad a gwrando). Gweler rhagor o wybodaeth am ein gofynion iaith Saesneg.
Yn Abertawe, byddwch yn elwa o addysg o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar
ymchwil, sy'n cyfuno ystod o ddulliau addysgu effeithiol a chynhwysol,
wedi'u teilwra'n ofalus i weddu i anghenion eich cwrs. Addysgir y rhan fwyaf
o gyrsiau wyneb yn wyneb, ar y campws, gan roi'r cyfle i
chi ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr eraill, staff academaidd, a chymuned
ehangach y brifysgol.
Gallwch ddisgwyl cymysgedd o
ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a sesiynau ymarferol -
gan gynnwys gwaith labordy, hyfforddiant sgiliau, neu addysgu mewn stiwdio
lle bo'n berthnasol i'ch disgyblaeth. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i
annog cyfranogiad gweithredol, cydweithio, a datblygu sgiliau penodol i'r
pwnc a sgiliau trosglwyddadwy.
Defnyddir offer dysgu digidol hefyd i wella'ch profiad
dysgu. Gall y rhain gynnwys:
Darlithoedd wedi'u recordio i gefnogi astudio ac
adolygu hyblyg.
Labordai rhithwir neu amgylcheddau wedi’u hefelychu, yn
enwedig mewn gwyddoniaeth, gofal iechyd a disgyblaethau technegol.
Adnoddau ar-lein ar amgylchedd dysgu rhithwir y
brifysgol (Canvas), gan gynnwys fideos, deunyddiau darllen, cwisiau a
fforymau trafod.
Mae'r dull hwn yn eich galluogi i ymdrin â chynnwys a'i adolygu yn eich
amser eich hun wrth elwa o strwythur a chefnogaeth addysgu wyneb yn wyneb.
Efallai bydd y cwrs hwn yn cynnig rhai modiwlau sy’n cael eu haddysgu drwy
gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yn rhugl.
Am ragor o fanylion am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, gweler
yr ehangydd Darpariaeth Gymraeg isod.
N.B. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio gyda Fisa Llwybr
Myfyrwyr, sylwch y bydd eich gweithgareddau wedi'u hamserlennu, ynghyd
ag unrhyw weithgareddau goruchwylio ychwanegol (gyda staff Prifysgol
Abertawe yn bresennol) yn digwydd ar y campws.Yn unol â phrotocol Fisâu
a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig, bydd y sesiynau hyn yn cael eu monitro a
bydd data ar gael ar gais.
Mae'n bosib astudio 80 credyd neu fwy o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym
yn cynnig:
Mynediad at fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Gymraeg.
Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith.
Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n
dystiolaeth o'ch gallu yn yr iaith Gymraeg i gyflogwyr, sef Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg a
CBAC.
Gall ffïoedd ar gyfer myfyrwyr israddedig amser llawn y DU gynyddu ym mlynyddoedd dilynol astudio yn unol â'r uchafswm ffi reoledig a bennir gan Lywodraeth Cymru.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen
ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi
Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.
Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Teithio i'r campws ac oddi yno
Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
Bydd angen i chi hefyd gwblhau holiadur iechyd sy'n rhan o'r broses addasrwydd i ymarfer fel athro. Mae'r holiadur yn galw am fewnbwn gan eich meddyg teulu ac efallai bydd yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.
Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor
personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
Ysgrifennu academaidd
Mathemateg ac ystadegau
Meddwl critigol
Rheoli amser
Sgiliau digidol
Sgiliau cyflwyno
Cymryd nodiadau
Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob ysgol. Fel arfer,
mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Sri Lanka,
De Corea, Fiji, Bali, UDA a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch
rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n
tudalennau gwe Haf Dramor.
Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer
cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae
rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau
cau ar gyfer cyflwyno cais.