TAR Uwchradd gyda SAC: Cymraeg, PGCert

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Croeso i Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA), ffordd newydd i staff mewn ysgolion a'r brifysgol gydweithio i sicrhau bod gan 'Athrawon Yfory' y sgiliau a'r profiad y mae eu hangen arnynt i wneud gwahaniaeth i ddisgyblion yng Nghymru.

Mae galw mawr am athrawon Cymraeg cymwysedig ar draws y DU. Mae PYPA wedi datblygu rhaglen TAR Cymraeg Uwchradd arloesol a fydd yn rhoi hyder i'r rhai sy'n dechrau yn y proffesiwn dysgu ddeall eu pwnc yn well ac yn eu dealltwriaeth o sut i'w addysgu. Bydd y rhaglen hon yn eich paratoi i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r cymunedau dysgu y byddwch yn ymuno â nhw. Caiff rhaglen TAR Cymraeg Uwchradd PYPA ei hategu gan ymchwil rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn dysgu sut i wneud Cymraeg yn ystyrlon, yn ddiddorol ac yn hwyl a hefyd sut i ddadansoddi eich datblygiad eich hun a datblygiad eich disgyblion.

Bydd rhaglen TAR integredig a thrylwyr PYPA yn eich herio'n academaidd ac yn broffesiynol. Nod y rhaglen Cymraeg TAR yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o natur Cymraeg a'i lleoliad yng nghwricwlwm yr ysgol. Byddwch yn cael eich annog i ymchwilio a phrofi eich ymagweddau eich hun i addysgeg Cymraeg i ganfod y dulliau hynny sy'n gweithio orau i chi a'r disgyblion rydych yn eu haddysgu. Mae PYPA yn ymroddedig i ddatblygu ymarferwyr myfyriol sy'n cael eu cyfeirio gan ymchwil sy'n gallu dangos creadigrwydd a hyblygrwydd yn eu haddysgu fel bod dysgwyr yn datblygu eu cymhwyster pwnc mewn amgylchedd sy'n ysgogi mwynhad.

PAM TYSTYSGRIF ÔL-RADDEDIG MEWN ADDYSG YN ABERTAWE?

Bydd Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe'n defnyddio arbenigedd academaidd sylweddol y Brifysgol yn Gymraeg. Bydd PYPA yn darparu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a arweinir gan ymchwil ac ymarferwyr o safon yn seiliedig ar yr egwyddor o ddysgu integredig. Datblygwyd pob agwedd ar y cwrs ar y cyd a byddant yn cael eu cyflwyno, eu sicrhau am ansawdd a'u hadolygu fel partneriaeth i atgyfnerthu'r cydweithio drwy gydol y flwyddyn.

Bydd Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA) yn cyflwyno rhaglen ymchwil ac ymarfer integredig o safon, yn seiliedig ar ei gweledigaeth o ddatblygu ymarferwyr myfyriol sy'n cael eu hysbysu gan ymchwil sy'n gallu cyfrannu'n sylweddol at ansawdd addysg yng Nghymru.

EICH PROFIAD TAR

Mae rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon PYPA wedi'i strwythuro i alluogi nifer o gyfleoedd i fynd i'r afael â'r holl Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu ac Addysgu drwy brofiadau dysgu cyfoethog sy'n atgyfnerthu, yn gwerthuso ac yn cefnogi gallu proffesiynol.

CYFLEOEDD CYFLOGAETH TAR

Bydd cwblhau TAR PYPA yn llwyddiannus yn arwain at argymhelliad i Gyngor Gweithlu Addysg ar gyfer Statws Athro Cymwys ac mae'n gyfle i gael cyflogaeth fel Athro Newydd Gymhwyso mewn ysgolion.

Addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion cyfrwng Saesneg

Mae'r cwrs hwn yn caniatáu i athrawon dan hyfforddiant ddewis a hoffent ddod yn athrawon Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae'r ddarpariaeth a'r cyfleoedd lleoliad yn cael eu gwahaniaethu a'u teilwra i gyd-fynd ag anghenion athrawon dan hyfforddiant. Rydym hefyd yn gallu cynnig dull hyblyg i'r rhai sy'n dymuno samplu lleoliadau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.