TAR Uwchradd gyda SAC: Ffiseg, PGCert

Creu Athrawon Yfory

myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Croeso i Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA), ffordd newydd i staff mewn ysgolion a'r brifysgol gydweithio i sicrhau bod gan 'Athrawon Yfory' y sgiliau a'r profiad y mae eu hangen arnynt i wneud gwahaniaeth i ddisgyblion yng Nghymru.

Mae galw mawr am athrawon Ffiseg cymwysedig ar draws y DU. Mae PYPA wedi datblygu rhaglen TAR Ffiseg Uwchradd arloesol a fydd yn rhoi hyder i'r rhai sy'n dechrau yn y proffesiwn dysgu ddeall eu pwnc yn well ac yn eu dealltwriaeth o sut i'w addysgu. Bydd y rhaglen hon yn eich paratoi i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r cymunedau dysgu y byddwch yn ymuno â nhw. Caiff rhaglen TAR Ffiseg Uwchradd PYPA ei hategu gan ymchwil rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn dysgu sut i wneud Ffiseg yn ystyrlon, yn ddiddorol ac yn hwyl a hefyd sut i ddadansoddi eich datblygiad eich hun a datblygiad eich disgyblion.

Bydd rhaglen TAR integredig a thrylwyr PYPA yn eich herio'n academaidd ac yn broffesiynol. Nod y rhaglen Ffiseg TAR yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o natur Ffiseg a'i lleoliad yng nghwricwlwm yr ysgol. Byddwch yn cael eich annog i ymchwilio a phrofi eich ymagweddau eich hun i addysgeg Ffiseg i ganfod y dulliau hynny sy'n gweithio orau i chi a'r disgyblion rydych yn eu haddysgu. Mae PYPA yn ymroddedig i ddatblygu ymarferwyr myfyriol sy'n cael eu cyfeirio gan ymchwil sy'n gallu dangos creadigrwydd a hyblygrwydd yn eu haddysgu fel bod dysgwyr yn datblygu eu cymhwyster pwnc mewn amgylchedd sy'n ysgogi mwynhad.

Pam Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg yn Abertawe?

Bydd Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe'n defnyddio arbenigedd academaidd sylweddol y Brifysgol mewn Ffiseg. Bydd PYPA yn darparu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a arweinir gan ymchwil ac ymarferwyr o safon yn seiliedig ar yr egwyddor o ddysgu integredig. Datblygwyd pob agwedd ar y cwrs ar y cyd a byddant yn cael eu cyflwyno, eu sicrhau am ansawdd a'u hadolygu fel partneriaeth i atgyfnerthu'r cydweithio drwy gydol y flwyddyn.

Bydd Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA) yn cyflwyno rhaglen ymchwil ac ymarfer integredig o safon, yn seiliedig ar ei gweledigaeth o ddatblygu ymarferwyr myfyriol sy'n cael eu hysbysu gan ymchwil sy'n gallu cyfrannu'n sylweddol at ansawdd addysg yng Nghymru.

Eich Profiad TAR

Mae rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon PYPA wedi'i strwythuro i alluogi nifer o gyfleoedd i fynd i'r afael â'r holl Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu ac Addysgu drwy brofiadau dysgu cyfoethog sy'n atgyfnerthu, yn gwerthuso ac yn cefnogi gallu proffesiynol.

Cyfleoedd Cyflogaeth TAR

Bydd cwblhau TAR PYPA yn llwyddiannus yn arwain at argymhelliad i Gyngor Gweithlu Addysg ar gyfer Statws Athro Cymwys ac mae'n gyfle i gael cyflogaeth fel Athro Newydd Gymhwyso mewn ysgolion ar draws Cymru, y DU ac o bosib, dramor.

Modiwlau

Mae rhaglen AGA PYPA yn cynnwys dau fodiwl:

Mae Ymarfer Myfyriol a arweinir gan ymchwil (EDPM30) yn seiliedig yn bennaf yn y brifysgol a bydd yn cynnwys y canlynol:

  • Astudiaethau Craidd: yn canolbwyntio ar y materion trosgynnol sy'n arwain polisïau yng nghyd-destun diwylliannol Cymru
  • Astudiaethau Pwnc: yn canolbwyntio ar yr addysgeg yn eich maes pwnc, cynllunio gwersi, deall lleoliad eich pwnc yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad
  • Gwella Gwybodaeth Pwnc: yn canolbwyntio ar adolygu gofynion y cwricwlwm yn eich maes pwnc a'ch paratoi ar gyfer y pynciau y gallech fod yn eu haddysgu
  • Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgeg: yn canolbwyntio ar y goblygiadau ar gyfer eich maes pwnc o ran materion ysgol gyfan megis darpariaeth ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, gwahaniaethu ac asesu.

Dulliau ymchwil mewn addysg: yn canolbwyntio ar fethodolegau ymchwil sy'n addas at ddibenion addysgol a'ch paratoi chi ar gyfer eich prosiect ymchwil sy'n seiliedig ar ymarfer. Mae EDPM30 yn 60 credyd lefel 7. Gall myfyrwyr sy'n cwblhau 60 o gredydau ar Lefel 7 drosglwyddo'r credydau i'n MA Addysg.

Nod Ymarfer Proffesiynol (EDP300) yw sicrhau bod yr holl athrawon dan hyfforddiant yn datblygu dealltwriaeth ddofn o sut mae Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth - Pedwar Diben y Cwricwlwm newydd i Gymru yn gweithio. Mae'r modiwl hwn yn arwain at argymell Statws Athro Cymwys. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn treulio o leiaf 120 o ddiwrnodau yn gwneud Ymarfer Proffesiynol mewn dwy ysgol yn y rhwydwaith lle maent wedi'u lleoli, gyda rhagor o gyfleoedd mewn amrywiaeth o leoliadau ategol. Mae EDP300 yn cyfuno ymchwil ag ymarfer ystafell ddosbarth drwy gwrs Ymarfer a Theori a gyflwynir ar y cyd gan Diwtoriaid Pwnc ac athrawon arbenigol yn ysgolion y rhwydwaith.Bydd Mentoriaid Pwnc a Thiwtoriaid Pwnc yn rhoi cymorth unigol cryf i athrawon dan hyfforddiant sy'n gweithio at ddiwallu Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth.

 

TAR Uwchradd gyda SAC: Ffiseg