TAR Uwchradd gyda SAC: Saesneg, PGCert

Creu Athrawon Yfory

myfrywr

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y TAR Uwchradd gyda Statws Athro Cymwysedig ym Mhrifysgol Abertawe'n eich paratoi i fodloni'r Safonau Dysgu ac Arweinyddiaeth Proffesiynol newydd i Gymru (ar lefel sy'n briodol ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso), gan eich galluogi i fod yn athro llawn ysbrydoliaeth, cymwys a phroffesiynol mewn Addysg Uwchradd.

Byddwch yn creu portffolio electronig o dystiolaeth, a elwir yn Basport Dysgu Proffesiynol, a fydd yn nodi eich cynnydd a'ch gallu yn erbyn pob un o'r Safonau Dysgu ac Arweinyddiaeth Proffesiynol. Bydd cyflwyno tystiolaeth lwyddiannus o fodloni'r holl Safonau, ynghyd â chwblhau asesiadau Lefel 7, yn arwain at gyflwyno argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg eich bod chi'n cael Statws Athro Cymwysedig.

Yn unol â gofynion y Llywodraeth, caiff y rhaglen ei datblygu a'i chyflwyno drwy gorff ysgolion-prifysgol ar y cyd; Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA). Mae'r Bartneriaeth hon yn rhannu rolau wrth ddatblygu, adolygu a chyflwyno ein rhaglen, gan gynnwys ei helfennau yn y brifysgol ac ar leoliad mewn ysgolion. Bydd staff ysgolion a'r Brifysgol yn cydweithio i'ch cefnogi chi, fel athro dan hyfforddiant, i symud ymlaen i gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus a chyflawni Statws Athro Cymwysedig.

Mae galw mawr am athrawon Saesneg cymwysedig ar draws y DU.  I gydnabod hyn, mae PYPA wedi datblygu'r rhaglen TAR Saesneg Uwchradd arloesol hon i roi hyder i chi, yn eich maes pwnc a'ch dealltwriaeth o sut i'w addysgu. Daw elfen bwnc-benodol y rhaglen o'r modiwl 'Ymarfer Myfyriol sy’n seiliedig ar Ymchwil' sydd yn seiliedig ar y pwnc o'ch dewis.

Caiff y rhaglen ei hategu gan ymchwil ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn dysgu sut i addysgu Saesneg mewn ffordd ystyrlon, ddiddorol a llawn hwyl, a hefyd sut i ddadansoddi eich datblygiad chi a datblygiad eich disgyblion.

PAM TYSTYSGRIF ÔL-RADDEDIG MEWN ADDYSG YN ABERTAWE?

Bydd Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe yn cynnig Addysg Gychwynnol Athrawon o safon a arweinir gan ymarferwyr ac ymchwil, i gyflwyno ei gweledigaeth o ddatblygu unigolion fel chi i fod yn ymarferwyr myfyriol a gwybodus, sy'n gallu cyfrannu'n sylweddol at ansawdd addysg yng Nghymru.

Bydd y TAR Uwchradd yn cynnig y cyfleoedd angenrheidiol i chi fynd i'r afael â'r holl Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, drwy brofiadau dysgu cyfoethog sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eich hyfedredd proffesiynol.

Bydd y rhaglen drwyadl hon yn eich herio'n academaidd ac yn broffesiynol. Nod y rhaglen yw datblygu eich dealltwriaeth feirniadol o natur Saesneg a'i lle yng nghwricwlwm yr ysgol. Byddwch yn cael eich annog i ymchwilio a phrofi eich ymagweddau eich hun at addysgu Saesneg i ddod o hyd i'r dulliau hynny sy'n gweithio orau i chi a'r disgyblion rydych yn eu haddysgu.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i drosglwyddo 60 o gredydau Lefel 7 a enillwyd ar y rhaglen hon fel Achrediad Dysgu Blaenorol, sy'n cyfrif tuag at gyflawni Cymhwyster Meistr Cenedlaethol mewn Addysg a gyflwynir ar y cyd gan brifysgolion ar draws Cymru.

Mae pob agwedd ar y cwrs wedi'i datblygu ar y cyd â PYPA a bydd yn cael ei chyflwyno, yn sicrhau ei hansawdd a'i hadolygu mewn partneriaeth, i atgyfnerthu'r cydweithrediad hwn drwy gydol y flwyddyn.

EICH PROFIAD TAR

Mae'r rhaglen yn cynnwys 60 niwrnod o fewnbwn gan y Brifysgol a 120 o ddiwrnodau lleoliad ysgol mewn dwy ysgol.

Cyn eich lleoliad, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiwn Micro Addysgu, lle byddwch yn cyflwyno gwers fer i'ch cyfoedion. Yn dilyn y sesiwn hon, byddwch yn cael adborth anffurfiol ar agweddau megis cyfathrebu, eglurder wrth esbonio, defnydd o adnoddau a phresenoldeb yn yr ystafell ddosbarth - gan osod y sylfeini am ymarfer myfyriol cyn dechrau yn yr ystafell ddosbarth.

Tra byddwch ar leoliad, cewch eich cefnogi'n helaeth drwy fframwaith cadarn sy'n integreiddio cymorth proffesiynol, academaidd a bugeiliol. Byddwch yn cael eich paru â mentor pwnc, a all gynnig arweiniad ac adborth adeiladol i gefnogi eich datblygiad.  Mae staff y Brifysgol yn rhan weithgar drwy gydol eich lleoliad, gan gynnig arweiniad pwnc-benodol a chynnal arsylwadau ffurfiol, sy'n cael eu cynllunio'n ofalus i asesu eich cynnydd a chefnogi datblygiad eich ymarfer addysgu.

Mae diwrnodau Ymarfer a Theori'n cael eu cynnwys drwy gydol cyfnod y lleoliad cyntaf, gan gynnig amser i chi archwilio sut mae theori addysgol yn cysylltu ag ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Cynhelir y sesiynau hyn yn Ysgol Arweiniol Rhwydwaith pob myfyriwr ac maen nhw'n cael eu hwyluso gan Diwtor Arweiniol Rhwydwaith y Brifysgol a chydweithwyr yn yr ysgol, gan eich galluogi i rannu profiadau, trafod heriau a myfyrio ar eich cynnydd.

Nodwedd allweddol o'r broses gymorth yw defnyddio'r Pasbort Dysgu Proffesiynol, platfform ar-lein sy'n cofnodi eich taith ddysgu broffesiynol. Byddwch hefyd yn cofnodi cynlluniau gwersi a myfyrdodau, a byddwch yn cael adborth gan eich mentoriaid, sy'n cynnwys arsylwadau ffurfiol, cyfarfodydd â mentor a sgyrsiau proffesiynol strwythuredig.

Byddwch yn cael 35 awr o ddarpariaeth iaith Gymraeg yn ystod y cwrs i ddatblygu eich sgiliau iaith Ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, bydd llwybr cyfrwng Cymraeg, sy'n cynnwys lleoliadau, seminarau a diwrnodau Ymarfer a Theori Cymraeg, yn ogystal â'r opsiwn i gyflwyno aseiniadau a chael adborth gan diwtor yn y brifysgol sy'n siarad Cymraeg.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn galluogi ymrwymiad cryf at addysg gynhwysol drwy ffocws cynhwysfawr ar Anghenion Dysgu Ychwanegol, sy'n cyd-fynd â’r Côd ADY newydd i Gymru.  Byddwch yn cael eich cefnogi i fod yn weithiwr proffesiynol ymatebol, sy'n gallu addasu eich gwaith addysgu i ddiwallu anghenion amrywiol yr holl ddysgwyr.

CYFLEOEDD CYFLOGAETH TAR

Bydd cwblhau'r cwrs TAR hwn yn llwyddiannus yn arwain at gyflwyno argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg i chi gael Statws Athro Cymwysedig. Mae hwn yn gyfle i gael cyflogaeth fel Athro Newydd Gymhwyso mewn ysgolion.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth o gyrff allanol megis:

  • Undebau
  • Arweinwyr Ysgol
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • Arweinwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon
  • Partneriaeth - corff addysgol ar y cyd sy'n cefnogi ysgolion yn Sir Gâr, Sir Benfro ac Abertawe
  • Cyd-bwyllgor Addysg Cymru

Mae'r ymgysylltiad hwn yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i fyfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys sesiynau dynodedig sy'n canolbwyntio ar y broses cyflwyno cais am swydd gan arweinwyr ysgol, ac yna cynhelir sesiynau mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar ddull cyfweliad, llythyrau cyflwyno cais a gwersi cyfweliad, gan gynnwys cynnal ffug gyfweliadau. Gall ymgysylltu â sefydliadau proffesiynol megis CBAC (y bwrdd arholi ar gyfer cymwysterau ysgol yng Nghymru) fod drwy sesiynau megis gweithdai rhanbarthol, sy’n galluogi myfyrwyr i gymryd rhan yn eu cymuned broffesiynol a gwneud cysylltiadau gwerthfawr.

Hefyd, byddwch yn cael cyfleoedd i ddatblygu ac ymestyn eich sgiliau cyflogadwyedd drwy nifer o gyfleoedd pellach. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno ymchwil i bartneriaid ysgol, cydweithwyr yn y brifysgol ac eraill yn y digwyddiad ymchwil blynyddol; cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda sefydliadau pwnc megis y Sefydliad Ffiseg; datblygu a rheoli gweithdai ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch, a chefnogi neu gyd-arwain teithiau ysgol, clybiau a dysgu yn yr awyr agored.

Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn cael swyddi mewn ysgolion uwchradd. Fel arfer, mae dros 90% o fyfyrwyr sy'n graddio wedi cael swydd erbyn y mis Medi ar ôl iddynt raddio.  Mae nifer o fyfyrwyr yn dilyn cymwysterau pellach ym myd addysg ar ôl graddio, gyda rhai'n parhau i astudio yn Abertawe ar raglenni megis y rhaglen MA Genedlaethol, y gallwch ei hastudio law yn llaw â'ch rolau addysgu.   Mae rhai myfyrwyr hefyd yn penderfynu cael cyflogaeth y tu hwnt i'r sector ysgolion uwchradd. Y swyddi mwyaf cyffredin ar ôl graddio yw:

  • Ysgolion Uwchradd
  • Ysgolion cynradd
  • Yr MA Cenedlaethol
  • Addysg Gradd Meistr a Doethurol
  • Colegau Addysg Bellach
  • Prifysgolion

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

TAR Uwchradd gyda SAC: Saesneg, PGCert