Meddygaeth Genomig, MSc / PGDip / PGCert

Lle mae glasbrint bywyd yn dod yn fap ffordd ar gyfer gofal iechyd

Genomic Medicine Students

Trosolwg o'r Cwrs

Disgwylir i genomeg chwarae rhan ganolog ar draws gwahanol ddimensiynau gofal iechyd, gan greu galw byd-eang am raddedigion hyfedr sy'n gallu gweithredu datblygiadau genomig yn y system gofal iechyd, y diwydiant fferyllol, a'r sector biofeddygol ehangach.

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i arfogi myfyrwyr o gefndiroedd academaidd a gweithle amrywiol â'r wybodaeth a'r sgiliau sylfaenol i ddeall a dehongli data genomig i wella diagnosis, triniaeth a gofal cleifion.

Mae pob modiwl wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r myfyriwr ynglŷn â'r defnydd o eneteg a dilyniannu genom a sut i'w gymhwyso o fewn y lleoliad clinigol ac ymchwil feddygol. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan ymchwilwyr academaidd a chlinigwyr, arbenigwyr ym maes genomeg, gyda phob pwnc yn seiliedig ar ddysgu ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Pam Meddygaeth Genomig ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Addysgir gan wyddonwyr academaidd sy'n arbenigwyr blaenllaw yn eu maes
  • Darlithoedd gwadd gan glinigwyr a chynghorwyr genetig i ddarparu cyd-destun bywyd go iawn
  • Ymgymryd â phrosiect labordy neu brosiect nad yw'n seiliedig ar labordy mewn testun sy'n berthnasol i faes genomeg
  • Mae cynrychiolaeth grŵp cleifion yn rhoi cipolwg ar effaith meddygaeth genomig o safbwynt y claf neu ofalwr
  • Y 5 uchaf ar gyfer ansawdd ymchwil cyffredinol (REF2021)
  • Mae gan fyfyrwyr ôl-raddedig fynediad i gyfleusterau yn adeilad £100 miliwn y Sefydliad Gwyddor Bywyd

Eich Profiad Meddygaeth Genomig

Ar y rhaglen hon byddwch yn cael eich cyflwyno i hanfodion geneteg ddynol a genomeg ynghyd â thechnegau sydd eu hangen ar gyfer dilyniannu DNA ac RNA i astudio amrywiad genomig a welir yn y lleoliad clinigol, ynghyd â'r sgiliau i ddehongli data genomig. Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau addysgu gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, tiwtorialau, dysgu grŵp rhyngweithiol, dysgu seiliedig ar waith a darlithoedd gwadd. Bydd myfyrwyr sy'n dymuno ymgymryd â'r MSc hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil 60 credyd (fel biowybodeg, labordy, mewn silico) ar bwnc sy'n berthnasol i faes genomeg.

Cyfleoedd Cyflogaeth Meddygaeth Genomig

Wrth ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn genomeg, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gwaith neu astudiaeth bellach gan gynnwys:

  • Ymchwil PhD a gyrfaoedd academaidd
  • Meddygaeth mynediad i raddedigion
  • MSc cwnsela genetig
  • Rhaglen hyfforddi gwyddonwyr a gwyddonwyr clinigol y GIG
  • Ysgrifennu meddygol a gwyddonol
  • Rolau addysg genomeg

Modiwlau

Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys: biowybodeg ar gyfer dadansoddi genomau, clefydau etifeddol cyffredin a phrin a chymhwyso genomeg mewn clefydau heintus. Mae yna hefyd fodiwlau dewisol y gallwch eu hastudio.

Ein Straeon myfyrwyr

Charlotte Davies
Llun Charlotte Davies

'Drwy gydol y radd, roeddwn i’n gallu datblygu fy ngwybodaeth ym maes meddygaeth genomig a hefyd, datblygais i ddealltwriaeth o sut i'w defnyddio ym maes meddygaeth ac ymarfer proffesiynol. Rhai o'r modiwlau gwnes i eu mwynhau'n fawr iawn oedd Biowybodeg ar gyfer dadansoddi Genomau, Ffarmacogenomeg, Genomeg Canser a Genomeg Clefydau Etifeddol Cyffredin a Phrin. Roedd y cwrs Meddygaeth Genomig yn hyblyg iawn ac roedd yn caniatáu i mi weithio’n rhan-amser, fel gwirfoddolwr, yn ogystal â chael profiad gwaith ym maes meddygaeth, ochr yn ochr ag astudio.'

Darganfod mwy am stori myfyriwr Charlotte 

Heather Gabriela Nadia-Marie