
Nadia-Marie
- Gwlad:
- Cymru
- Cwrs:
- MSc Meddygaeth Genomig
Yr hyn a wnaeth fy nenu i'r cwrs Meddygaeth Genomig yn Abertawe oedd cymhwyso genomeg i amlygiad clefydau yn ogystal â datblygu cyffuriau a thriniaethau. Bydd gan genomeg rôl fwyfwy pwysig mewn gofal iechyd, y diwydiant fferyllol ac ymchwil feddygol. Felly, mae'n ddewis da i unrhyw un sy'n chwilio am yrfa yn y meysydd hyn. Mae'r amrywiaeth o sgiliau rwyf wedi'u meithrin drwy gydol y cwrs hwn yn cael eu defnyddio'n rheolaidd yn fy rôl bresennol fel Ysgrifennydd Meddygol.