Trosolwg o'r Cwrs
Mae dwy ffrwd i'r rhaglen MRes hon: caiff myfyrwyr ddewis arbenigo mewn strwythurau neu mewn hylifau. Mae'r modiwlau a addysgir yn gosod seiliau cadarn o ran modelu cyfrifiadurol ac yn y dull elfennau cyfyngedig yn benodol.
Mae efelychu cyfrifiadurol bellach yn ddisgyblaeth sefydledig sydd â rôl bwysig o ran peirianneg a gwyddoniaeth, ac ym meysydd newydd sy'n dod i'r amlwg o ran ymchwil rhyngddisgyblaethol.
Gan ddefnyddio modelu mathemategol yn sail, mae dulliau cyfrifiadurol yn darparu gweithdrefnau a all, gyda chymorth y cyfrifiadur, ganiatáu i ni ddatrys problemau cymhleth. Mae gan y technegau hyn rôl gynyddol bwysig mewn diwydiant, ac mae mwy o bwyslais ar ddefnyddio'r fethodoleg mewn meysydd pwysig eraill megis meddygaeth a'r gwyddorau bywyd.
Mae gan y Canolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadurol, lle cynhelir y cwrs hwn, gyfleusterau cyfrifiadura rhagorol, gan gynnwys uwchgyfrifiadur amlbrosesydd o'r radd flaenaf gyda chyfleusterau realiti rhithwir a rhwydweithio cyflym iawn.
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn datblygu dealltwriaeth gadarn o fodelu cyfrifiadurol, gan arbenigo naill ai mewn strwythurau neu ynteu mewn hylifau, ac mewn defnyddio'r sgiliau a enillir ar y cwrs hwn i ddatblygu eu gyrfa, boed mewn diwydiant neu mewn ymchwil.
Os ydych yn dymuno cymhwyso'n Beiriannydd Siartredig, achredir y cwrs hwn yn gwrs sy'n diwallu gofynion addysg ychwanegol y dysgu sy'n ofynnol i gymhwyso, fel y nodir gan y sefydliadau peirianneg yn y DU ac yn Ewrop.