Peirianneg Sifil, Ph.D.

Mae Peirianneg Sifil yn Abertawe yn y 201-275 Adran Gorau yn y Byd

QS World University Rankings 2025

pic

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ryngwladol mewn Peirianneg Sifil a Chyfrifiadol ers dros 50 mlynedd. O'r 1960au ymlaen, roedd yr Adran Peirianneg Sifil yn gartref i'r ymchwilydd rhyngwladol cydnabyddedig, yr Athro Olek Zienkiewicz, a adnabyddid fel un o ddatblygwyr arloesol y Dull Elfennau Meidraidd (FEM). Mae'r dechneg sylfaenol hon wrth wraidd y rhan fwyaf o feddalwedd efelychu a chyfrifiannu peirianneg fodern sy'n cael ei defnyddio heddiw.

Mae'r Adran Peirianneg Sifil wedi'i rhestru:

  • 18fed yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)
  • 22ain yn y DU yn gyffredinol (Daily Mail 2026)
  • Ymysg y 201-275 yn y Byd am Beirianneg - Sifil a Strwythurol (Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2026)
  • Ystyrir bod 100% o'n Hamgylchedd Ymchwil yn arwain y Byd ac yn Rhagorol yn Rhyngwladol (REF 2021)

Mae gan yr Adran Peirianneg Sifil gryfder ac ehangder mewn llawer o feysydd allweddol ymchwil Peirianneg Sifil fodern, ac mae grwpiau ymchwil yn weithgar yn y themâu ymchwil canlynol:

Grŵp Ymchwil Peirianneg Arfordirol a Dŵr:Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio modelu cyfrifiadol newydd, technegau deallusrwydd artiffisial, a data arbrofol a data sy'n deillio o'r byd go iawn i archwilio prosesau arfordirol, hydrometeoroleg, deinameg afonydd, a risg llifogydd, gan gwmpasu ymchwil sylfaenol ac ymchwil gymhwysol.

Peirianneg Trafnidiaeth:Mae isadeiledd trafnidiaeth yn sylfaen hanfodol ar gyfer ein cymdeithas. Mae ein hymchwilwyr yn defnyddio technolegau arloesol i ddatblygu systemau trafnidiaeth gwydn, cynaliadwy a chlyfar sy'n mynd i'r afael â heriau dybryd yr argyfwng hinsawdd. Mae'r gwaith arloesol yn cynnwys synhwyro clyfar wedi'i hunanbweru, deunyddiau ffordd hunan-adfer, asffalt carbon isel, rhwydweithiau synhwyrydd diwifr ar gyfer monitro trafnidiaeth glyfar, dysgu peirianyddol sy'n seiliedig ar ffiseg ar gyfer dadansoddi data uwch, a chynnal egni ar isadeiledd ffyrdd.

Deunyddiau Peirianneg Sifil ac Ymarfer Cynaliadwy: Rydym yn defnyddio ein cyfleusterau labordy a'n harbenigedd traws-ddisgyblaethol sylweddol i weithio mewn partneriaeth â diwydiant er mwyn ymchwilio i ystod amrywiol o ddeunyddiau adeiladu newydd a chynaliadwy, gan ganolbwyntio ar ddeunyddiau carbon-isel a chynaliadwy.  Mae themâu ymchwil yn cynnwys concritau carbon isel, morterau smentaidd wedi'u hactifadu gan alcali, concritau perfformiad uchel iawn, geopolymerau ac agregau wedi'u hailgylchu.

Solidau, Strwythurau a Systemau Cypledig: Mae ein hymchwilwyr yn datblygu strategaethau cyfrifiadol arloesol i efelychu ystod eang o broblemau ffisegol a chymwysiadau peirianneg sy'n cynnwys yn fras meysydd solidau, strwythurau a systemau cypledig. Mae'r prif bynciau yn cynnwys mecaneg solidau cyfrifiadol, modelu deunyddiau, mecaneg torri, cyswllt ffrithiannol, cyfryngau gronynnog, geomecaneg a rhyngweithiadau rhwng strwythur a hylif.

Peirianneg Gyfrifiadol: Mae ein hymchwilwyr yn datblygu dulliau cyfrifiadol blaengar i efelychu amrywiaeth o ffenomenau ffisegol, gan gynnwys hylifau, solidau, symudiad tonnau a phroblemau aml-ffiseg.  Mae'r ymchwil yn ymwneud â datblygiadau sylfaenol mewn dulliau rhifiadol, cynhyrchu rhwyllau, modelau wedi’u symleiddio (‘reduced order models’) a dysgu peirianyddol yn ogystal â'u defnydd wrth ddelio â phroblemau diwydiannol.

Caiff eich astudiaethau eu cefnogi gan gymuned ryngwladol o dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o aelodau staff ymchwil yn yr Adran Beirianneg.

Gallwch ddysgu mwy am ein staff academaidd, cyhoeddiadau ymchwil a meysydd goruchwylio yn Arbenigedd Ymchwil Peirianneg Sifil.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.