Peirianneg Sifil, MSc drwy Ymchwil

Mae Peirianneg Sifil yn Abertawe yn y 201-275 Adran Gorau yn y Byd

QS World University Rankings 2025

pic

Trosolwg o'r Cwrs

Dyddiadau Cychwyn: 1 af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill, 1 Gorffennaf.

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil rhyngwladol ym maes peirianneg sifil a chyfrifiadurol. Bu peirianwyr ag enw da rhyngwladol yn Abertawe yn arloesi datblygiad technegau rhifol, fel y dull elfen gyfyngedig, a gweithdrefnau cyfrifiadurol cysylltiedig sydd wedi galluogi datrys llawer o broblemau peirianneg cymhleth. Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig sylfaen ardderchog ar gyfer eich ymchwil fel myfyriwr MSc drwy Ymchwil mewn maes Peirianneg Sifil.

‌Yn yr Ymarferiad Asesu Ymchwil (RAE) diwethaf, gosodwyd peirianneg sifil ym Mhrifysgol Abertawe yn ail yn y Deyrnas Unedig am ansawdd yr ymchwil, gan farnu bod 95 y cant o’r ymchwil a gynhyrchir gan staff academaidd yn arwain y byd (4*) neu’n rhyngwladol ragorol (3*).

Erbyn hyn, mae efelychu cyfrifiadurol yn ddisgyblaeth sefydledig sydd â swyddogaeth bwysig i’w chwarae ym maes peirianneg, y gwyddorau ac mewn meysydd newydd o ymchwil rhyngddisgyblaethol.

Mae gan y Canolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Abertawe gyfleusterau cyfrifiadurol ardderchog, gan gynnwys uwchgyfrifiadur amlbrosesydd o’r radd flaenaf gyda chyfleusterau rhith-wirionedd a rhwydweithio cyflymder uchel.

Mae ymchwil ym maes Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn amlddisgyblaethol ei natur, yn ymgorffori ein cryfderau mewn meysydd ymchwil ar draws y disgyblaethau Peirianneg.

Mecaneg gyfrifiadurol yw sylfaen mwyafrif y prosiectau MSc drwy Ymchwil yn y disgyblaethau peirianneg hyn.