Civil Engineering, Ph.D. Dysgu o Bell

Mae Peirianneg Sifil yn Abertawe yn y 201-275 Adran Gorau yn y Byd

QS World University Rankings 2025

Concrete structure

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r PhD mewn Peirianneg Sifil - Dysgu o Bell yn ddarostyngedig i'r un rheoliadau yn y Brifysgol â'r rhaglen PhD arferol, heblaw am y ffaith y gellir cynnal pob cyfarfod â'r goruchwylwyr academaidd ac aelodau perthnasol eraill o staff Prifysgol Abertawe ar-lein. Mae croeso i'r myfyriwr ymweld â Phrifysgol Abertawe ond nid oes rhaid gwneud hyn oni bai y rhoddir cyfarwyddyd arall neu mewn amgylchiadau pan fydd angen presenoldeb ar y campws.

 

Dyddiadau dechrau: PhD/MPhil - 1 Hydref, 1 Ionawr, 1 Ebrill a 1 Gorffennaf.

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn flaenllaw o ran ymchwil ryngwladol ym maes peirianneg gyfrifiadol.

Bu peirianwyr o fri rhyngwladol yn Abertawe yn arwain y gwaith o ddatblygu technegau rhifiadol, megis y dull elfennau cyfyngedig, a'r gweithdrefnau cyfrifiadol cysylltiedig sydd wedi hwyluso datrys llawer o broblemau peirianegol cymhleth.

Mae gan Ganolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadol gyfleusterau cyfrifiadura ardderchog, gan gynnwys aml-brosesydd o'r radd flaenaf, uwch-gyfrifiadur â chyfleusterau realiti rhithwir a rhwydweithio cyflym.

Dyma deitlau rhai o’r traethodau ymchwil a oruchwyliwyd ym maes Peirianneg Sifil:

  • Finite Element Simulation of Damage Assessment of Concrete Bridges subject to Seismic Loading
  • Numerical Modelling and Optimisation of new RHS Column-to-I Beam Connections
  • Cohesive Discrete Element Modelling and Industrial Applications
  • Characterisation of Porous Media using the Lattice Boltzmann Method
  • Compressible computational fluid dynamics for fluid structure interaction simulation