Dyddiad dechrau

Hydref, Ionawr, Ebrill, Gorffennaf

Dyddiad cau

Medi 2026

Gwybodaeth Allweddol

Bydd y prosiect hwn yn ceisio datblygu cymwysiadau damcaniaethol a methodolegol damcaniaeth anghynrychiadol mewn ymchwil i farchnata a chwsmeriaid.

Er gwaethaf natur ddamcaniaethol/gysyniadol y prosiect, dylai cynigion gynnwys elfen empirig y mae ei chyd- destun ymchwil yn berthnasol ar gyfer cynulleidfaoedd marchnata ac astudiaethau cwsmeriaid.

Er y ffefrir ymagweddau ôl-strwythuraethol, mae darpar fyfyrwyr yn rhydd i dynnu ar safbwyntiau damcaniaethol gwahanol, er y dylid darparu safbwynt clir a dadleuon cryf ar gyfer y cynnig ymchwil.

Cymhwyster

Cymwysterau gofynnol

O leiaf 2.1 ar lefel Israddedig a theilyngdod ar lefel Meistr, neu gymwysterau rhyngwladol cyfatebol.

Cefndiroedd pwnc a gaiff eu hystyried

Unrhyw gefndir pwnc yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn enwedig Marchnata, Rheoli, Athroniaeth a Daearyddiaeth Ddynol, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain.

Profiad/sgiliau a rhinweddau eraill sy'n ofynnol

Disgwylir rhywfaint o brofiad o ymdrin â damcaniaethau (e.e. ontoepistemoleg methodolegau ymchwil.) Mae profiad o gynnal ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yn ddymunol ond nid yw'n ofynnol.

Supervisors

Dr Alessandro Graciotti 

 Mwy o wybodaeth am Dr Alessandro Graciotti 

Sut i Wneud Cais

Porwch drwy ein Rhaglenni Ymchwil ôl-raddedig i ddod o hyd i'r dudalen cwrs rydych chi'n chwilio amdani ac ymgeisio gan ddefnyddio'r botwm "Ymgeisio" ar y dudalen.

Yna byddwch yn cael eich ailgyfeirio at ein system ymgeisio, lle gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau eich cais.

Pwysig: Ychwanegwch enw'r goruchwylwyr a nodir uchod at eich cais i sicrhau bod eich cais yn eu cyrraedd. Gallwch ychwanegu eu henwau ar dudalen flaen eich cynnig ymchwil ac at eich datganiad personol.