Dyddiad dechrau
Hydref, Ionawr, Ebrill, Gorffennaf
Dyddiad cau
Medi 2026
Gwybodaeth Allweddol
Mae'r ystod o brosiectau'n cynnwys mapio a gwella llif cleifion gan gynnwys agweddau ar y sefydliad dysgu, dulliau sefydliadol darbodus a dibynadwy iawn.
Croesewir ceisiadau ym meysydd pwnc gweithleoedd diogel yn seicolegol, rhagoriaeth weithredol, ymgysylltiad clinigol, arloesedd mewn technolegau iechyd a gofal a chadwyni cyflenwi.
Bydd yr ymchwil ddelfrydol yn ansoddol ac yn seiliedig ar astudiaethau achos gyda'r bwriad o feithrin damcaniaeth.
Cymhwyster
Cymwysterau gofynnol
O leiaf 2.1 ar lefel Israddedig a theilyngdod ar lefel Meistr, neu gymwysterau rhyngwladol cyfatebol.
Cefndiroedd pwnc a gaiff eu hystyried
Rheolaeth, Peirianneg, Gwyddorau Cymdeithasol a Gofal Iechyd.
Profiad/sgiliau a rhinweddau eraill sy'n ofynnol
Yn ddelfrydol, rhywfaint o brofiad (2 flynedd) o'r GIG neu system iechyd a gofal arall.
Supervisors
Yr Athro Nick Rich
- Ebost: N.L.Rich@abertawe.ac.uk
- Ffôn: 01792 606317
Mwy o wybodaeth am yr Athro Nick Rich
Sut i Wneud Cais
Porwch drwy ein Rhaglenni Ymchwil ôl-raddedig i ddod o hyd i'r dudalen cwrs rydych chi'n chwilio amdani ac ymgeisio gan ddefnyddio'r botwm "Ymgeisio" ar y dudalen.
Yna byddwch yn cael eich ailgyfeirio at ein system ymgeisio, lle gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau eich cais.
Pwysig: Ychwanegwch enw'r goruchwylwyr a nodir uchod at eich cais i sicrhau bod eich cais yn eu cyrraedd. Gallwch ychwanegu eu henwau ar dudalen flaen eich cynnig ymchwil ac at eich datganiad personol.