Dyddiad dechrau
Hydref, Ionawr, Ebrill, Gorffennaf
Dyddiad cau
Medi 2026
Gwybodaeth Allweddol
Mae'r economi fyd-eang yn wynebu sefyllfa o argyfwng amlochrog, lle mae effeithiau digwyddiadau niferus yn creu llif gyson o heriau ar gyfer busnesau. Mewn ymateb i'r heriau hyn, mae llawer o fusnesau wedi sylweddoli bod angen iddynt ddatblygu model gweithredu mwy gwydn, yn ogystal â gweithlu mwy gwydn. Mae'r ymdrech i gyflawni gwydnwch wedi arwain at ddiddordeb academaidd sylweddol, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar sut gall busnesau ddefnyddio adnoddau i greu galluoedd sy'n addas ar gyfer sefyllfaoedd penodol ar adegau o argyfwng, mewn ymgais i fod yn fwy ystwyth.
Mae'r Ysgol Reolaeth yn gwahodd cynigion ymchwil sy'n archwilio effaith argyfwng ar fusnes gan ganolbwyntio ar un neu fwy o'r pynciau canlynol:
- Gwydnwch busnesau bach
- Rôl Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Rheoli Argyfwng
- Priodoleddau cymeriad gwydn
- Diwylliannau gwydn
- Effaith gwydnwch ar berfformiad busnes
Byddai gan yr Ysgol ddiddordeb penodol yn y pynciau uchod o'u gosod yng nghyd-destun y sectorau canlynol:
- Manwerthu
- Lletygarwch
- Gweithgynhyrchu
Ni fyddwn yn derbyn cynigion ymchwil a gynhyrchir gan AI
Cymhwyster
Cymwysterau gofynnol
O leiaf 2.1 ar lefel Israddedig a theilyngdod ar lefel Meistr, neu gymwysterau rhyngwladol cyfatebol.
Cefndiroedd pwnc a gaiff eu hystyried
Busnes a meysydd cysylltiedig.
Profiad/sgiliau a rhinweddau eraill sy'n ofynnol
- Meddwl yn feirniadol: Gwerthuso gwybodaeth i wneud penderfyniadau rhesymol a llunio casgliadau.
- Ysgrifennu Academaidd: Sgiliau ysgrifennu ardderchog i lunio traethawd hir o safon uchel.
- Sgiliau Cyfathrebu: Cyfathrebu effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig i gyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn fforymau caeedig ac agored.
- Galluoedd Datrys Problemau: Y gallu i ymdrin â chwestiynau ymchwil a heriau cymhleth.
- Hunan-gymhelliant: Y gallu i weithio'n annibynnol a chynnal cymhelliant drwy gydol y broses ymchwil.
- Rheoli Amser: Y gallu i reoli sawl tasg a bodloni amserau terfyn yn effeithlon.
- Sgiliau Ymchwil: Dealltwriaeth sylfaenol o nodweddion allweddol ymchwil drylwyr a moesegol.
Supervisors
Sut i Wneud Cais
Porwch drwy ein Rhaglenni Ymchwil ôl-raddedig i ddod o hyd i'r dudalen cwrs rydych chi'n chwilio amdani ac ymgeisio gan ddefnyddio'r botwm "Ymgeisio" ar y dudalen.
Yna byddwch yn cael eich ailgyfeirio at ein system ymgeisio, lle gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau eich cais.
Pwysig: Ychwanegwch enw'r goruchwylwyr a nodir uchod at eich cais i sicrhau bod eich cais yn eu cyrraedd. Gallwch ychwanegu eu henwau ar dudalen flaen eich cynnig ymchwil ac at eich datganiad personol.