Dyddiad cau: 10 Awst 2025

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr y DU yn unig

Cyllidwr: Llywodraeth Cymru drwy'r Academi Dysgu Dwys ar gyfer Arloesi  

Maes Pwnc: Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol  

Dyddiadau dechrau'r prosiect: Hydref 2025 

Goruchwylwyr: i'w pennu pan gyflwynir cais

Rhaglenni Astudio Cydnaws: PhD mewn Rheoli Busnes   

Dull Astudio: Amser llawn, Dull B 

Lleoliad Astudio: y gweithle a'r Ysgol Reolaeth 

Disgrifiad o'r prosiect:  
Mae Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cael ei datblygu i ddarparu dysgu, ymchwil a sylfaen addysgu o safon fyd-eang a fydd yn sicrhau bod gan arweinwyr yr hyder, y sgiliau a'r gallu i wireddu arloesedd mewn iechyd a gofal a lles. 

Mae'r Academi, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei datblygu i gefnogi arloesedd ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol, o arloesi cynyddol i arloesi trawsnewidiol. Mae’n cynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector drwy ymagwedd dysgu ac ymarfer sy'n seiliedig ar achosion, gan dynnu ar weithgareddau rheng flaen grwpiau megis Arweinwyr Arloesi'r GIG i wybodaeth ac arbenigedd rhyngwladol partneriaid a rhwydweithiau rhyngwladol.  

Mae Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn croesawu ceisiadau am Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig gan unigolion sy'n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen cefnogaeth sefydliadol ar ddysgwyr proffesiynol, gan gynnwys ystyriaeth o sut y mae'r gweithgarwch ymchwil a'r allbwn yn gysylltiedig â’r polisi a/neu'r ymarfer. Gall pynciau fod yn gysylltiedig ag unrhyw agwedd ar arloesedd sy'n canolbwyntio ar gyflawni Blaenoriaethau Cymru Iachach. Caiff ceisiadau eu dewis ar sail y cyfraniad hwn, ac yn erbyn y meini prawf a restrir isod. 

Fel rhan o'r rhaglen hon, gallwn gynnig sawl ysgoloriaeth sydd wedi'i hariannu'n llawn i ddysgwyr proffesiynol ar draws Cymru, gan gydweithio â’r canlynol: 

  • GIG Cymru  
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 
  • Sefydliadau Gofal Cymdeithasol yng Nghymru 
  • Sefydliadau Trydydd Sector yng Nghymru 

Cymhwyster

FFIOEDD Y DU YN UNIG:  

Oherwydd cyfyngiadau cyllid, mae'r ysgoloriaeth hon yn agored i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu ar gyfradd y DU yn unig, fel y’i diffinnir gan UKCISA (Rhestr lawn categorïau ar gyfer addysg uwch yng Nghymru)

Fel rhan o'r rhaglen hon, gallwn gynnig sawl ysgoloriaeth sydd wedi'i hariannu'n llawn i ddysgwyr proffesiynol ar draws Cymru, gan gydweithio â’r canlynol: 

  • GIG Cymru  
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 
  • Sefydliadau Gofal Cymdeithasol yng Nghymru 
  • Sefydliadau Trydydd Sector yng Nghymru 

Mae'n rhaid i ymgeiswyr am PhD feddu ar radd israddedig ar lefel 2:1 neu’n uwch a gradd Meistr. Fel arall, caiff ymgeiswyr sy'n meddu ar radd dosbarth cyntaf o'r DU (neu gymhwyster cyfwerth o'r tu allan i'r DU, fel y’i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) ond nad ydynt yn meddu ar radd meistr, eu hystyried ar sail unigol. Gweler - Gwybodaeth sy'n Benodol i Wledydd ar gyfer Ymgeiswyr Rhyngwladol 2025    

Yr Iaith Saesneg: IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ym mhob elfen unigol) neu gymhwyster a gydnabyddir yn gyfwerth gan Brifysgol Abertawe. Am ragor o wybodaeth, gweler Polisi Mynediad Iaith Saesneg Prifysgol Abertawe. 

Os oes gennych gwestiynau am eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn y ffïoedd dysgu. 

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol gwerth hyd at £1,000 y flwyddyn ar gael hefyd. 

Mae rheolau Dull B yn berthnasol oherwydd bydd y myfyrwyr yn ddysgwyr proffesiynol cyflogedig, yn ymgymryd â’r PhD amser llawn yn eu lleoliad gwaith 

Sut i wneud cais

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan:

I gael eich ystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth hon, rhaid cymryd y camau canlynol hefyd. 

1) Yn yr adran 'Gwybodaeth am y Rhaglen', nodwch Gôd yr Ysgoloriaeth Ymchwil berthnasol ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth h.y. RS844 

2) Yn yr adran 'Ymchwil' byddwch chi'n gweld 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig'* (Gorfodol) 

  • Yn yr adran 'Teitl y prosiect/ysgoloriaeth ymchwil arfaethedig' nodwch: 
  • côd yr ysgoloriaeth ymchwil RS844 
  • deitl yr ysgoloriaeth   
  • Gadewch faes y Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag 
  • Gadewch faes y Prosiect Ymchwil (os yw’n berthnasol) yn wag 
  • Yn y maes 'Oes gennych chi gynnig i'w lanlwytho?*' (Gorfodol), dewiswch Oes 
  • Yna lanlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw’r hysbyseb drwy glicio argraffu, ac yna ei argraffu i pdf) 

3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am Gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Sicrhewch nad oes unrhyw opsiynau eraill yn cael eu dewis.  

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth gyflwyno cais, sylwer na chaiff ceisiadau a dderbynnir heb yr wybodaeth a restrir uchod eu hystyried am ddyfarniad yr ysgoloriaeth. 

Mae angen cyflwyno un cais unigol am bob ysgoloriaeth ymchwil unigol a arweinir gan Brifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru mwy nag un ysgoloriaeth ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe. 

SYLWER: Ymgeiswyr am PhD/EngD/ProfD/EdD - i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd sy'n rhydd o wahaniaethu ac sy’n dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant  yn ogystal â ffurflen gais eich rhaglen.    

Sylwer bod cwblhau'r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn orfodol; efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried/brosesu os nad yw'r wybodaeth hon wedi'i chyflwyno. 

Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi lanlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain drwy e-bost): 

  • CV 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau graddau (os ydych chi'n astudio am radd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yn hyn yn ddigonol) 
  • Llythyr eglurhaol gan gynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r rôl yn cyd-fynd yn benodol â'ch sgiliau a'ch profiad a sut y byddwch yn dewis datblygu'r prosiect. 
  • Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur â phennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirdaon Prifysgol Abertawe Sylwer nad oes modd i ni dderbyn geirdaon sy'n cynnwys cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai canolwyr nodi'u cyfeiriad e-bost gwaith at ddiben cadarnhau'r geirda. 
  • Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (lle bo'n briodol). 
  • Copi o fisa Preswylydd y DU (lle bo'n briodol) 
  • Cadarnhad o gyflwyno ffurflen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â Dr Dan Rees, d.j.rees@abertawe.ac.uk 

*Rhannu Data Ceisiadau â Phartneriaid Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dewis ceisiadau am ysgoloriaeth, efallai caiff data cais ei rannu â phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo prosiect ysgoloriaeth yn cael ei ariannu ar y cyd.