
Heddiw, cyhoeddwyd mai’r awdur o Balesteina, Yasmin Zaher, yw enillydd y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd ar gyfer llenorion ifanc - Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe - am ei nofel gyntaf, The Coin, gan nodi ugain mlynedd ers sefydlu’r wobr fyd-eang hon.
Roedd y beirniaid yn unfrydol eleni mai The Coin a oedd yn tynnu arbrofiadau personol Zaheri ddadansoddi natur a gwareiddiad, harddwch a chyfiawnder, dosbarth a pherthyn mewn archwiliad bywiog o hunaniaeth a threftadaeth.
Dywedodd Namita Gokhale, Cadeirydd y Beirniaid, ar ran y panel: "Roedd cwtogi ein rhestr hir eithriadol o ddeuddeg nofel i chwech llyfr anhygoel, ac yna i un, yn anodd - ond roedd y panel beirniadu'n unfrydol yn eu penderfyniad i enwi Yasmin Zaher, gyda'i nofel gyntaf, yn enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2025. Mae Zaher yn cyflwyno cymhlethdod a dwyster drwy ei harddull ysgrifennu cryno a chain: Mae The Coin yn nofel heb ffiniau, sy'n mynd i'r afael â thrawma a galar gyda rhannau beiddgar a barddonol o hynodrwydd a hiwmor. Mae'n llawn egni trydanol. Mae Yasmin Zaher yn enillydd eithriadol i nodi ugain mlynedd ers sefydlu’r wobr hollbwysig hon".
Dyfarnwyd y wobr gwerth £20,000 i Yasmin Zaher - gwobr sy'n dathlu dawn lenyddol eithriadol gan awduron 39 oed neu'n iau - mewn seremoni a gynhaliwyd yn Abertawe ddydd Iau 15 Mai. Mae The Coin, a gyhoeddwyd fel llyfr clawr papur ar 1 Mai 2025, wedi'i gyhoeddi gan Footnote Press, cyhoeddwr sy'n canolbwyntio ar genhadaeth ac sy'n ymrwymedig i ddarparu llwyfan ar gyfer straeon a safbwyntiau ar y cyrion.
Mae'r wobr wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, llenor a anwyd yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae'r wobr yn cofio am Dylan Thomas er mwyn cefnogi awduron heddiw, meithrin doniau yfory, a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol yn ei holl ffurfiau gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu.
Y teitlau eraill a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr 2025 oedd Rapture's Road gan Seán Hewitt (Jonathan Cape, Vintage, Penguin Random House), Glorious Exploits gan Ferdia Lennon (Fig Tree, Penguin Random House), The Safekeep gan Yael van der Wouden (Viking, Penguin Random House UK), I Will Crash gan Rebecca Watson (Faber & Faber), a Moderate to Poor, Occasionally Good gan Eley Williams (4th Estate).
Beirniadwyd Gwobr 2025 gan Namita Gokhale, yr awdur arobryn o India sydd wedi cyhoeddi dros 25 o lyfrau ffuglen a ffeithiol (Paro: Dreams of Passion, Things to Leave Behind) yn ogystal â bod yn gyd-gyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur uchel ei bri. Y beirniaid eraill oedd: Yr Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru a Chyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe; Jan Carson, nofelydd ac awdur arobryn (The Fire Starters, The Raptures); Mary Jean Chan, awdur a enillodd Wobr Costa Book ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn y gorffennol (Flèche, Bright Fear); a Max Liu, beirniad llenyddol a chyfrannwr at The Financial Times, i a BBC Radio 4.
Mae Yasmin Zaher yn ymuno â rhestr ryfeddol o awduron sydd wedi derbyn y wobr o fri hon, gan gynnwys Caleb Azumah Nelson, Arinze Ifeakandu, Patricia Lockwood, Max Porter, Raven Leilani, Bryan Washington, Maggie Shipstead, Guy Gunaratne, a Kayo Chingonyi.