
O'r chwith i'r dde: Namita Gokhale, Daniel G. Williams, Mary Jean Chan, Max Liu, Jan Carson
Caiff y panel beirniadu ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni, y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc, ei ddatgelu heddiw, cyn cyhoeddi'r rhestr hir ddydd Iau 23 Ionawr.
Cyhoeddir y rhestr fer ddydd Iau 20 Mawrth, a chynhelir digwyddiad dathlu'r rhestr fer yn y Llyfrgell Brydeinig ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas (14 Mai), a chaiff yr enillydd ei gyhoeddi mewn seremoni yn Abertawe ar y noson ganlynol, nos Iau 15 Mai 2025.
Caiff panel beirniadu 2025 ei gadeirio gan Namita Gokhale, yr awdur Indiaidd arobryn sydd wedi ysgrifennu dros 25 o weithiau ffuglen a ffeithiol (Paro: Dreams of Passion, Things to Leave Behind) yn ogystal â bod yn gyd-gyfarwyddwr yr ŵyl enwog, Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur.
Hefyd yn ymuno â'r panel beirniadu ar gyfer 2025 mae:
- Yr Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru a Chyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.
- Jan Carson, nofelydd ac awdur arobryn (The Fire Starters, The Raptures)
- Mary Jean Chan, awdur a enillodd Wobr Costa Book ac a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn y gorffennol (Flèche, Bright Fear)
- Max Liu, beirniad llenyddol a chyfrannwr at The Financial Times, the i a BBC Radio 4.
Mae'r wobr fyd-eang hon, sy'n werth £20,000, yn cydnabod llenorion eithriadol o dalentog 39 oed neu'n iau, gan ddathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu.
Mae'r wobr wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, llenor a anwyd yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae'r wobr hon yn cofio am Dylan Thomas er mwyn cefnogi llenorion presennol, meithrin doniau’r dyfodol a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.
Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Arinze Ifeakandu, Patricia Lockwood, Max Porter, Raven Leilani, Bryan Washington, Guy Gunaratne a Kayo Chingonyi, a dyfarnwyd gwobr y llynedd i Caleb Azumah Nelson am ei nofel Small Worlds.