Illustration of girl juggling books and other items alongside two book stacks

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi dychweliad Gŵyl Llenyddiaeth Plant a Phobl Ifanc, a gynhelir ddydd Sadwrn 4 a dydd Sul 5 Hydref 2025 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Bydd yr ŵyl ddeuddydd yn cynnwys sesiynau adrodd straeon a chreu straeon yn Saesneg a Chymraeg, gan gynnig cyfle i deuluoedd, ysgolion a darllenwyr ifanc ymgysylltu ag ystod eang o awduron a darlunwyr cyfoes o Gymru a ledled y Deyrnas Unedig.

Yn arwain y rhaglen eleni mae'r nofelydd llwyddiannus a sylfaenydd Gwobrau'r Menywod, Kate Mosse. Yn ymuno â hi bydd Manon Steffan Ros, enillydd Medal Carnegie 2023; Alex Wharton, bardd, perfformiwr a Children’s Laureate Wales ar hyn o bryd, a Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys Caryl Lewis, sydd wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru ar sawl achlysur; Lesley Parr, enillydd Gwobr Tir na n-Og (2022, 2024) a’r categori Llyfr Plant a Phobl Ifanc Saesneg yng Gwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru (2023); a Claire Fayers a Liz Hyder, enillwyr Tir na n-Og 2025.

Yn ymuno â nhw mae llu o awduron arobryn a thoreithiog eraill llyfrau i blant ac oedolion ifanc, gan gynnwys: Meleri Wyn James, Rebecca F. John, Huw Lewis-Jones, Lee Newbery, Angie Roberts, Emma Smith Barton, Siôn Tomos Owen, Darren Chetty a Helen a Thomas Docherty. Gyda'i gilydd, byddant yn cyflwyno rhaglen ysbrydoledig wedi'i chynllunio i sbarduno creadigrwydd ac annog cariad gydol oes at lyfrau a darllen.

Yn ogystal â digwyddiadau gydag awduron, bydd yr ŵyl yn cynnal gorsafoedd creadigol galw heibio am ddim bob dydd rhwng 11am a 3pm. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys lliwio, ysgrifennu straeon, gwneud nodau tudalen, darlunio a phaentio wynebau. Nid oes angen archebu lle ar gyfer y sesiynau hyn.

Trefnir yr ŵyl gan Sefydliad Diwylliannol a rhaglen DylanED Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Storyopolis, Cover to Cover, a Chronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru.

Meddai Dr Elaine Canning, Cyfarwyddwr Gwobr Dylan Thomas a rhaglen addysgol DylanEd Prifysgol Abertawe: "Rwyf wrth fy modd ein bod yn dod â’r Ŵyl Llenyddiaeth Plant a Phobl Ifanc yn ôl i Abertawe am yr eildro ym mis Hydref eleni. Gyda rhaglen wych o'r awduron gorau o bob cwr o Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig, rydym yn edrych ymlaen at groesawu teuluoedd a ffrindiau i benwythnos cyffrous o adrodd straeon, creu straeon, gorsafoedd creadigol a llawer mwy. Diolch arbennig i'n holl bartneriaid a myfyrwyr interniaid Prifysgol Abertawe am wneud hyn yn bosibl trwy weledigaeth, angerdd ac egni a rennir.”

Mae’r rhaglen lawn a manylion archebu ar gyfer digwyddiadau awduron ar gael yma

Rhannu'r stori