Mae’n bleser mawr gennym ni gyhoeddi y bydd Jane Fraser yn feirniad gwadd ar gyfer cystadleuaeth 2023
Mae Jane Fraser yn byw, yn gweithio ac yn ysgrifennu ffuglen mewn tŷ sy'n wynebu'r môr ym mhentref Llangynydd, ym mhenrhyn Gŵyr, de Cymru.
Hi yw awdur dau gasgliad o ffuglen fer, The South Westerlies (2019) a Connective Tissue (2022), a chyhoeddwyd y ddau gan SALT , un o gyhoeddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw’r DU. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Advent (2021), gan wasg menywod Cymru, HONNO, a dyfarnwyd Gwobr Goffa Paul Torday y Gymdeithas Awduron iddi yn 2022.
Mae ei straeon byrion wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn cystadlaethau rhyngwladol mawr: cyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Ffuglen Manceinion (2017) ac mae hi wedi dod yn ail, wedi cael ei chynnwys ar y rhestr fer neu dderbyn clod ar gyfer Gwobr Stori Fer Fish, Gwobr Stori Fer ABR Elizabeth Jolley, Gwobr Stori Fer Caergrawnt, a Gwobr Genedlaethol Stori Fer Rhys Davies.
Mae ei gwaith wedi'i gynnwys mewn nifer helaeth o flodeugerddi gan arddangos mewn cyhoeddiadau gan New Welsh Review, The Lonely Crowd, TSS, Momaya Press, Retreat West, a Fish Publishing. Yn 2022, cafodd ei chomisiynu gan BBC Radio 4 am y tro cyntaf i ysgrifennu 'Soft Boiled Eggs' sef stori fer a ddarlledwyd fel rhan o'r gyfres Short Works.
Mae ganddi radd gyntaf B.Ed a gradd Meistr a gradd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe. Mae hi hefyd yn falch o fod yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli.
Yn ddiweddar, mae The Society of Authors wedi dyfarnu grant i Jane i weithio ar ei nofel ddiweddaraf: stori gyfoes eco-ffeministaidd rhwng cenedlaethau wedi'i gosod ar benrhyn Gŵyr
Twitter @jfraserwriter | Instagram @janefraserwriter | www.janefraserwriter.com