Mae'r awdur Matthew G Rees wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023 am ei stori Harvest.
Mae'r gystadleuaeth yn cydnabod y straeon byrion gorau oll nas cyhoeddwyd yn Saesneg mewn unrhyw arddull ac ar unrhyw bwnc hyd at 5,000 o eiriau ar y mwyaf gan lenorion 18 oed neu'n hŷn a anwyd yng Nghymru, sydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf ddwy flynedd, neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae Harvest yn adrodd stori Cock Davies, casglwr cocos ers amser maith sy'n heneiddio. Wrth i ni ddod ar ei draws, mae ar dywod aber yng ngorllewin Cymru, gan eistedd ar gefn ei dractor mewn ystum rhyfelgar yn erbyn ffyrdd newydd y byd. Mae iaith, biwrocratiaeth a dieithriaid oll yn bygwth ei deyrnas. Yn y stori hon, sydd bron yn Feiblaidd, am ddyn yn ei gynefin naturiol, mae Cock yn dadorchuddio'r gocosen orau y gallai unrhyw ddyn fod wedi ei blasu erioed ac yn wynebu ei dynged yn y lle ar y trothwy rhwng llanw a thrai.
Magwyd Matthew mewn teulu Cymreig ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a adwaenir fel y Gororau ac mae ganddo wreiddiau ym mharthau diwydiannol a gwledig Cymru. Mae'n byw yn Abertawe bellach, ond mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys newyddiadurwr, athro a gyrrwr tacsi gyda'r hwyr.
Mae ei lyfrau'n cynnwys Keyhole, casgliad o straeon byrion a leolir yng Nghymru a'r Gororau (gwasg Three Imposters, 2019). Ei lyfr diweddaraf yw The Snow Leopard of Moscow & Other Stories, casgliad o straeon am Moscow yn oes Putin lle bu Matthew yn byw ac yn gweithio am gyfnod. Yn ôl Stephen Volk, sydd wedi ennill BAFTA am ysgrifennu, mae'n feistr ar adrodd straeon sy'n gryno ond yn sinematig, heb wastraffu gair.
Sefydlwyd Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies ym 1991 ac fe'i cynhaliwyd 10 o weithiau hyd yn hyn. Cafodd y gystadleuaeth ei hail-lansio gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ar ran Ymddiriedolaeth Rhys Davies yn 2021, mewn cydweithrediad â Parthian Books.
Mae Matthew yn derbyn £1,000 a chaiff ei gynnig buddugol ei gynnwys yn The Rhys Davies Short Story Award Anthology 2023, a gyhoeddir gan Parthian ym mis Hydref. Bydd straeon yr 11 awdur arall a gyrhaeddodd restr fer y gystadleuaeth eleni hefyd yn rhan o'r antholeg.
Meddai'r beirniad gwadd eleni, Jane Fraser, y llenor arobryn o Gymru: “Mae Harvest gan Matthew G Rees yn arddangos llais unigryw a meistrolgar wrth adrodd stori. Drwy reoli'r naratif yn hyderus a bathu ieithwedd bleserus, mae Rees yn llwyddo wrth bortreadu cymeriad Cock Davies a'r lleoliad materol mae'n byw ynddo yn y stori herfeiddiol ac anochel hon. Gwnaeth Harvest gydio ynof i o'r llinell agoriadol a dal i gydio ynof i ymhell ar ôl i mi ddarllen y frawddeg olaf.”
Wrth dderbyn y wobr, meddai Matthew: “A minnau wedi dwlu ar straeon byrion gydol fy oes, mae derbyn y wobr hon yn destun boddhad, angerdd a balchder i mi. Mae modd dadlau mai'r stori fer – drwy ei allu arbennig i gyfareddu ac adleisio – yw'r ffurf lenyddol sydd wedi rhoi'r llais gorau i rywbeth y gellid ei ddisgrifio fel ‘y profiad Cymreig’. Mae Rhys Davies, wrth gwrs, yn un o gewri'r traddodiad hwn.
“Rwy'n llongyfarch pawb sydd wedi cyfrannu – boed yn drefnwyr, yn noddwyr, yn feirniaid, yn olygyddion ac yn gyhoeddwyr – at gyflwyno'r wobr sy'n dwyn enw Rhys Davies, gan roi llwyfan teilwng i ffurf o ysgrifennu sy'n ymddangos, fel y soniais i, yn rhan mor hanfodol o stori Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd y rhai hynny sy'n darllen antholeg 2023 yn cael profiad buddiol. Rwy'n gwybod fy mod i'n edrych ymlaen at ddarllen y straeon!”
Roedd Rhys Davies, a anwyd ym Mlaenclydach yng Nghwm Rhondda ym 1901, yn un o ysgrifenwyr rhyddiaith Saesneg mwyaf ymroddedig, toreithiog a dawnus Cymru. At ei gilydd, ysgrifennodd dros gant o straeon, 20 nofel, tair nofel fer, dau lyfr topograffaidd am Gymru, dwy ddrama a hunangofiant.
Bydd Matthew G Rees – ynghyd â'r beirniad gwadd, Jane Davies; y golygydd, Elaine Canning; Cyfarwyddwr Parthian, Richard Davies; a'r rhai a gyrhaeddodd restr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023 – yn siarad am y casgliad a ffurf y stori fer wrth i'r antholeg gael ei lansio yn Waterstones yn Abertawe nos Iau, 12 Hydref am 6pm. Bydd croeso i bawb.