Trosolwg
Mae ymchwil Amaha Senu yn canolbwyntio ar leoedd morol i archwilio materion mudo a symudedd, diogelwch a ffiniau, diogelwch morol a llywodraethu byd-eang, a globaleiddio a throseddu. Mae ei ddiddordebau addysgu'n cynnwys troseddau gan y wladwriaeth a throseddau gan bobl rymus, globaleiddio a niwed, ymagweddau beirniadol mewn Troseddeg a dulliau ymchwil.
Ymunodd â'r Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn 2022 fel Darlithydd mewn Troseddeg. Mae'n Uwch-gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Astudio Uwch Johannesburg ac yn Gymrawd Cysylltiol yng Nghanolfan Ymchwil Ryngwladol y Morwyr.
Mae gan Amaha ddiddordeb mewn goruchwylio prosiectau ymchwil sy'n ymwneud â’r canlynol:
- troi mudo'n fater diogelwch ac yn drosedd
- diogelwch a throseddu morol
- globaleiddio a niwed/troseddu
- preifateiddio diogelwch/rheoli troseddu
- rheolaeth, grym/gwrthsefyll, a thrais mewn rhwydweithiau logisteg