Trosolwg
Yn ddiweddar, rydw i wedi dychwelyd i'r byd academaidd ar ôl seibiant o 5 mlynedd yn gweithio fel gweithiwr cymorth anghenion cymhleth gyda phobl sy'n cysgu allan yng Nghaerdydd. Yn Abertawe, rydw i'n darlithio mewn Troseddeg ar hyn o bryd, gan dynnu ar fy mhrofiad proffesiynol helaeth yn gweithio gyda throseddwyr a'r system cyfiawnder troseddol.
Rwy'n ysgolhaig rhyngddisgyblaethol sydd â chefndir mewn gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol a chymdeithaseg. Mae fy ymchwil bresennol yn canolbwyntio'n fras ar gymdeithaseg wleidyddol a damcaniaeth gymdeithasegol, â diddordeb arbennig yng ngwleidyddiaeth Prydain a Chymru (yn enwedig hunaniaeth genedlaethol a datganoli), cymdeithaseg addysg, undebau llafur a'r broses lafur, astudiaethau milwrol beirniadol, troseddau a charchardai, a dulliau ethnograffig. Y llinyn sy'n uno'r pynciau gwahanol hyn yw fy niddordeb hirsefydlog mewn dosbarth cymdeithasol a'i ddylanwad ar hunaniaeth, ymddygiad gwleidyddol a mwy.
Cyhoeddwyd fy ymchwil mewn cyfnodolion gan gynnwys Nations and Nationalism, Capital and Class, a British Politics. Yn 2021 golygais y llyfr The Welsh Way: Essays on Neoliberalism and Devolution. Ym mis Ionawr 2023, cyhoeddais fy llyfr A Nation of Shopkeepers, yn archwilio rôl y mân-fwrgeisiaid yn strwythur y dosbarthiadau modern a'i heffaith ar wleidyddiaeth boblyddwyr. Yn 2024 byddaf yn cyhoeddi monograff sy’n seiliedig ar fy PhD - British Wales: Class, Place and Everyday Nationhood - gyda Gwasg Prifysgol Cymru.
Rwy'n gymdeithasegydd cyhoeddus ac wedi ymddangos droeon ar y teledu a'r radio, gan drafod fy ymchwil a darparu dadansoddiad gwleidyddol ar gyfer BBC News, BBC Wales News, BBC Radio Wales a Novara Media. Rwy'n cyflwyno darlithoedd cyhoeddus yn rheolaidd ac yn ddiweddar trafodais fy llyfr diweddaraf ar y mân-fwrdeisiaid ar raglen gymdeithaseg flaenllaw Radio 4 'Thinking Allowed'. Rwyf wedi ysgrifennu ar gyfer platfformau poblogaidd fel Jacobin, The New Statesman, Open Democracy, The Conversation, Planet: The Welsh Internationalist, a mwy.