Trosolwg
Cwblhaodd Mengwei ei PhD mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caint, a bu'n Ddarlithydd Seicoleg am bum mlynedd yn Tsieina cyn dychwelyd i'r DU i fod yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ymchwil Mengwei yn canolbwyntio ar fudo rhyngwladol, yn benodol ar ddwy ffrwd: yn gyntaf, mae'n edrych ar garfanau myfyrwyr rhyngwladol sy’n hanu o Tsieina ac sy’n mynd i Tsieina ac yn ymchwilio i'w llwybrau gyrfaol a mudo ar ôl eu hastudiaethau; yn ail, mae'n archwilio ochr deuluol gweithwyr medrus iawn sy'n mudo drwy gynnal ymchwil hydredol ansoddol i deuluoedd trawswladol rhwng Tsieina a'r DU. Mae ei gyrfa academaidd ar draws Tsieina a'r DU wedi ei galluogi i gynnal ymchwil empirig yn y ddwy wlad, gan ddatblygu dealltwriaeth drawswladol a chymharol o bynciau ei hymchwil.
Mengwei yw awdur y llyfr "Education, migration, and family relations between China and the UK" (Emerald, 2018). Mae hefyd yn arwain prosiect a ariennir o'r enw “Myfyrwyr/graddedigion o wledydd y Ffordd Sidan yn Tsieina: rhwydweithiau mudo a llwybrau gyrfaol” (2018-2023).
Mae'n aelod o fwrdd golygyddol Sociology. Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd golygyddol y British Journal of Sociology of Education.